Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar cau wardiau oherwydd Norofeirws

27 Mai 2026

Mae rhai wardiau a gafodd eu cau dros dro oherwydd achosion o norofeirws yn Ysbyty Tywysog Philip ac Ysbyty Llwynhelyg bellach wedi ailagor.

Fodd bynnag, mae tair ward ym Mronglais yn parhau ar gau heddiw 27 Mai 2026.

Rydym yn parhau i ofyn i ymwelwyr fynychu safleoedd dim ond os ydynt yn iach gan fod achosion o norofeirws yn dal i gylchredeg yn y gymuned.

Bydd rhai ymweliadau hanfodol yn cael eu caniatáu yn Ysbyty Bronglais mewn amgylchiadau eithriadol. Rydym yn gofyn i ymwelwyr gysylltu â'r wardiau neu switsfwrdd yr ysbyty am arweiniad pellach.

Bydd y cyfyngiadau yn eu lle nes bydd rhybudd pellach, a bydd y sefyllfa’n cael ei monitro’n rheolaidd.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch i GIG 111 Cymru - Gwyddoniadur : Norofirws (agor mewn ffenest newydd)

Beth yw symptomau norofeirws?

Y prif symptomau yw chwydu a dolur rhydd. Mae symptomau eraill yn cynnwys:

  • Twymyn ysgafn
  • Pen tost/cur pen
  • Poen yn y stumog
  • Poen yn aelodau’r corff

Sut i osgoi dal Norofeirws

Ie:

  • Golchwch eich dwylo â sebon a dŵr
  • Cadwch arwynebau’r cartref yn lân

Na:

  • Peidiwch â rhannu tywelion, gwlanenni, neu frwsys dannedd
  • Peidiwch â bwyta bwyd amrwd neu heb ei olchi

Am gyngor a gwybodaeth bellach ewch i Cyngor ar Reoli Heintiau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda