Nodi bod y llun hwn wedi'i dynnu cyn covid
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi datgan diolch o galon i wirfoddolwyr am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr (1-7 Mehefin), mae’r bwrdd iechyd yn awyddus i dynnu sylw at y gefnogaeth hanfodol a ddarperir gan wirfoddolwyr ar draws y tair sir, yn enwedig gyda’r heriau a gyflwynir gan y pandemig coronafeirws. Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gyfrifol am ystod eang o gefnogaeth, o helpu mewn canolfannau brechu i yrru pobl i apwyntiadau ysbyty.
Dywedodd y gwirfoddolwr Fiona Marsden, o Little Haven: “Ar ddechrau’r pandemig roeddwn yn awyddus i ddod yn wirfoddolwr GIG. Roedd yn brofiad positif a gwerth chweil. I ddechrau, fy rôl oedd dosbarthu parseli bwyd i deuluoedd a oedd yn ynysu. Ers mis Ionawr rwyf wedi bod yn gwirfoddoli yn y canolfannau brechu torfol yn Aberteifi a Hwlffordd. Mae wedi bod yn wych gweld egni, ymrwymiad a brwdfrydedd pobl ar draws y bwrdd iechyd yn tynnu at ei gilydd i wneud i rywbeth gwirioneddol ryfeddol ddigwydd. ”
Yn y cyfamser, dywedodd Wynne Evans o Aberdaugleddau: “Mae gwirfoddoli ers COVID-19 wedi bod yn brofiad rhyfeddol, gan eich bod yn teimlo eich bod yn gwneud rôl werthfawr i helpu pobl yn ystod COVID-19, ac mae'r cyhoedd wir yn gwerthfawrogi'r gwaith da y mae ein holl wirfoddolwyr yn ei wneud.”
Anfonodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda lythyr personol at yr holl wirfoddolwyr sydd wedi cefnogi'r bwrdd iechyd. Meddai: “Rwy’n ysgrifennu i estyn diolch twymgalon am yr amser, yr amynedd a’r ymrwymiad rydych chi wedi’i roi fel gwirfoddolwr. Rwyf mor ddiolchgar am eich gwaith caled, yn enwedig yn ystod cyfnod mor heriol â'r pandemig. Gwerthfawrogir eich cyfraniad yn fawr ac mae'n hanfodol er mwyn caniatáu inni ddarparu gwasanaethau.
“Mae eich cefnogaeth wedi bod mor werthfawr wrth ein galluogi i redeg y canolfannau brechu torfol, ysbytai maes a gwasanaethau eraill, i ddarparu’r gofal gorau posibl i’n cleifion a’n cymunedau.”
Talodd deyrnged hefyd i'r holl bobl hynny a fyddai wedi gwirfoddoli mewn amseroedd arferol ond wedi methu â gwneud hynny oherwydd eu hamgylchiadau personol, fel gorfod gwarchod eu hunain.