Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu a gofalu am ein cleifion mwyaf agored i niwed

Mae ein staff yn gweithio’n ddiflino bob dydd yn wyneb pwysau a heriau heb eu hail, ac maent yn parhau i fynd gam ymhellach i flaenoriaethu gofal a thriniaeth ein holl gleifion. Rydym yn hynod falch o’r ymdrech ar y cyd y mae ein gweithlu cyfan yn parhau i’w gwneud.

Yn anffodus, oherwydd pwysau staffio sylweddol o fewn ein rota Ymgynghorwyr Gofal Dwys yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn gorfod gweithredu newid brys, dros dro i wasanaethau a fydd yn ein galluogi i sefydlogi rhai o’n cleifion sâl yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a’u trosglwyddo i Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin. Hoffem bwysleisio mai mesur dros dro yn unig yw hwn i gynnal diogelwch cleifion, a bod yr uned yn Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i fod ar agor ac yn gallu trin cleifion ICU sydd ag anghenion meddygol llai acíwt.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ein staff wedi bod yn gweithio'n galed i gynnal gwasanaeth rota Gofal Dwys diogel ar draws Sir Gaerfyrddin. Ar gyngor uwch glinigwyr, rydym wedi cyfyngu mynediad Lefel 3 dros dro ar gyfer cleifion sy’n ddifrifol wael (sydd angen ymyriadau meddygol megis cymorth organau neu awyru mecanyddol) yn Ysbyty Tywysog Philip, ac wedi sefydlu cyfres o fesurau i helpu i gryfhau ein sefyllfa.

Mae rhain yn cynnwys:

• Cyfarfod ag arweinwyr clinigol anesthetig, meddygol ac ICU i gytuno ar gynllun llif cleifion dros dro

• Gofyn am gymorth ar draws y Rhwydwaith Gofal Critigol

• Adolygu a chytundeb interim ar gyfraddau oriau ychwanegol ar gyfer meddygon ymgynghorol

• Sefydlu cyswllt â'r Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol Acíwt (ACCTS) i drafod y cynnydd posibl mewn trosglwyddiadau o Ysbyty Tywysog Philip i Ysbyty Cyffredinol Glangwili

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Hywel Dda: “Hoffwn roi sicrwydd i’n cyhoedd, cleifion a chymunedau bod y camau yr ydym yn eu cymryd wedi’u hanelu at sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gofal a thriniaeth ddiogel i rai o’n clefion sâl, a’n bod yn gweithio’n ddiwyd i adfer a chryfhau ein rotâu gofal dwys cyn gynted â phosibl, fel bod gennym wasanaeth cydnerth drwy gydol yr hydref a’r gaeaf a thu hwnt.

“Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i weithio gyda’n timau Recriwtio a MEDACs i sicrhau ôl-lenwi parhaus addas ar gyfer rhestrau dyletswyddau, gan gydnabod bod hysbysebion yn cael eu gosod ar gyfer swyddi parhaol a locwm, a datblygu a chynnal tîm o staff i gefnogi swyddi gwag o leoliadau eraill.” 

Ychwanegodd Mr Mark Henwood, Llawfeddyg Ymgynghorol a Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol: “Mae cynnal diogelwch cleifion ar draws ein gwasanaethau o’r pwys mwyaf wrth i ni barhau â’n taith tuag at adferiad o’r pandemig Covid-19, ac mae hyn yn arbennig o wir am rai o’n cleifion mwyaf sâl sydd angen gofal dwys.

“Trwy gyflwyno newid gwasanaeth dros dro, tymor byr o’r natur hwn, gallwn ddiogelu ein llwybrau ICU a sicrhau bod y cleifion hynny sydd angen ymyrraeth feddygol acíwt gan ymgynghorydd yn parhau i’w dderbyn.”

Os ydych chi'n teimlo'n sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch ymweld â gwiriwr symptomau GIG 111 ar-lein neu ffoniwch 111 os nad ydych yn siŵr pa gymorth sydd ei angen arnoch.

Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, megis:

• Anawsterau anadlu difrifol

• Poen difrifol neu waedu

• Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc

• Anafiadau trawma difrifol (e.e. o ddamwain car)

Os oes gennych anaf llai difrifol, yna ewch i un o'n Hunedau Mân Anafiadau. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau fel:

• Mân glwyfau

• Mân losgiadau neu sgaldiadau

• Brathiadau pryfed

• Mân anafiadau i'r goes, y pen neu'r wyneb (* gweler y nodyn)

• Darnau estron yn y trwyn neu'r glust

Mae gennym ni uned mân anafiadau neu wasanaethau cerdded i mewn yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod, yn ogystal ag yn ein prif ysbytai acíwt. Am oriau agor, gwiriwch ein gwefan

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/pharmacy/

Mae gwybodaeth ychwanegol ar sut i gael mynediad at iechyd a gofal yn ystod gwyliau banc ar ein gwefan : https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/bank-holidays-community-health-care/

Os oes gennych chi berthynas neu rywun annwyl yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael eich rhyddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi eu helpu i gyrraedd adref yn gynt os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i'w cefnogi gartref.

Os yw eich perthynas yn aros am becyn gofal ffurfiol, efallai y gallwch gynnig cymorth a gofal ar drefniant tymor byr, dros dro neu efallai y byddwch am ystyried a allai eich anwylyd gael cymorth mewn lleoliad gofal preswyl neu nyrsio dros dro. Os teimlwch fod hwn yn opsiwn y gallech ei ystyried, siaradwch â rheolwr y ward neu'ch gweithiwr cymdeithasol i archwilio ymhellach a gweld pa gymorth sydd ar gael i chi.

Mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty yn well i gleifion ac yn golygu y gellir rhyddhau gwelyau’r GIG i eraill ag anghenion gofal brys. Mae cefnogi cleifion hŷn i gyrraedd adref o’r ysbyty yn effeithlon yn rhan bwysig o’u hadferiad ac mae hefyd yn eu hamddiffyn rhag canlyniadau negyddol derbyniad i’r ysbyty, megis haint a gafwyd yn yr ysbyty, codymau a cholli annibyniaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses rhyddhau o’r ysbyty a chanllawiau yma: https://hduhb.nhs.wales/patient-information/inpatient-and-outpatient/ 

Helpwch ni i wneud ein gwasanaeth yn fwy diogel trwy rannu'r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu, diolch.