12 Mehefin 2025
Mae cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar gyfer y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i ateb cwestiynau a allai fod gan bobl am newidiadau arfaethedig i rai gwasanaethau gofal iechyd lleol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lansio ymgynghoriad ar naw gwasanaeth gofal iechyd gyda'r nod o fynd i'r afael â breuderau, gwella safonau, neu leihau amseroedd aros i bobl sydd angen diagnosis a thriniaeth. Y gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yw gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg, radioleg, strôc ac wroleg. Gallai cynigion newid y ffordd y darperir y gwasanaethau hyn mewn ysbytai a rhai cyfleusterau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn y dyfodol. Nod y digwyddiadau yw rhoi gwybodaeth i bobl am yr ymgynghoriad a'r opsiynau ar gyfer newid, a rhoi cyfle iddynt siarad â staff y Bwrdd Iechyd a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. P'un a ydych chi'n glaf, yn aelod o'r gymuned, yn aelod o staff neu'n rhywun sydd â diddordeb mewn iechyd a lles, gallwch alw heibio i ddigwyddiad unrhyw bryd. Mae digwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal:
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein. Bydd pob digwyddiad ar-lein yn canolbwyntio ar dri maes o wasanaeth clinigol.
Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio: “Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ar yr opsiynau a gyflwynwyd, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw atebion a ffefrir. Mae'r hyn rydych chi'n ei feddwl, eich profiadau o iechyd a gofal, a'ch syniadau am ddyfodol y gwasanaethau hyn yn hynod bwysig. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn cael eu siapio gan y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Ym mhob digwyddiad cewch gyfle i siarad ag uwch staff Hywel Dda am ddyfodol y gwasanaethau clinigol yn yr ymgynghoriad
Gall pobl rannu eu barn drwy lenwi holiadur neu fynychu digwyddiadau cyhoeddus, yn bersonol, neu ar-lein.
Mae gwybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys manylion y digwyddiad, yr holiadur a dogfennau mewn fformatau ac ieithoedd hygyrch, ar gael ar dudalennau gwe ymgynghoriad penodol y Bwrdd Iechyd (agor mewn dolen newydd).
Ewch i’r adran ‘Digwyddiadau Ymgynghori’ os hoffech gofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein.