Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddfa West Street i ddychwelyd cytundeb y GIG

10 Ionawr 2023

Gyda gofid y bydd Deintyddfa West Street, Abergwaun yn rhoi’r gorau i ddarparu gofal deintyddol y GIG ar 31 Mawrth 2023.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gweithio’n agos gyda Deintyddfa West Street i sicrhau bod cleifion a oedd wedi derbyn gofal yn y Ddeintyddfa yn flaenorol yn cael y wybodaeth angenrheidiol am eu gofal parhaus, a’r opsiynau sydd ar gael iddynt tra bod y Bwrdd Iechyd yn cynnal proses i ganfod darparwr Gwasanaeth newydd ar gyfer yr ardal.

Bydd y Ddeintyddfa yn parhau i ddarparu'r holl ofal brys sydd ei angen ar gleifion tan 31 Mawrth 2023 a bydd yn sicrhau bod unrhyw driniaeth, gan gynnwys tynnu orthodontig, yn cael ei chwblhau.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth y mae cleifion wedi’i rhoi i’r Ddeintyddfa dros y blynyddoedd ac rydym yn gwerthfawrogi’r pryderon a all fod gan gleifion ar yr adeg hon o ansicrwydd.

“Rydym yn gweithio i ddod o hyd i ateb sy’n sicrhau gwasanaethau Deintyddol y GIG ar gyfer y tymor hwy.”

Dylai cleifion sydd ag unrhyw ymholiadau am eu hapwyntiad gysylltu â'r Ddeintyddfa. Ar ôl i'r Ddeintyddfa gau, dylai cleifion sy'n dioddef poen dannedd gysylltu â 111 i gael apwyntiad mynediad brys sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

I gael gwybodaeth am sut y gallwch gael mynediad at ofal deintyddol y GIG mewn Practis arall, ewch i wefan BIP Hywel Dda https://hduhb.nhs.wales neu cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Deintyddol ar 0300 303 8322 (opsiwn 4) neu HBHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk