Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddfa Llandeilo Road yn dychwelyd ei Chontract Deintyddol GIG

25 Mai 2023

Mae Deintyddfa Llandeilo Road yn Cross Hands wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddychwelyd ei Chontract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GIG) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 31 Awst 2023.

Bydd hyn yn golygu na fydd y ddeintyddfa yn darparu gofal deintyddol GIG o 1 Awst 2023 ymlaen.

Bydd y ddeintyddfa yn darparu unrhyw ofal brys sydd ei angen ar gleifion hyd at ac yn cynnwys 31 Medi 2023 a bydd yn sicrhau bod unrhyw driniaeth yn cael ei chwblhau.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i’r cleifion am y cymorth y maent wedi’i roi i’r ddeintyddfa dros y blynyddoedd ac rydym yn gwerthfawrogi’r effaith y bydd y newid hwn yn ei gael. gael ar y boblogaeth leol.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddod o hyd i ateb hirdymor sy’n sicrhau’r gwasanaeth pwysig hwn i’r ardal.”

Ar ôl i'r ddeintyddfa gau, dylai cleifion sy'n dioddef poen deintyddol gysylltu â 111 i gael apwyntiad mynediad deintyddol brys sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

Mae’r bwrdd iechyd am sicrhau ateb cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau deintyddol y GIG yn yr ardal ac mae wedi ymrwymo i gael gwasanaeth newydd yn ei le cyn gynted â phosib.

Gall y cleifion GIG hynny sy’n gysylltiedig â Deintyddfa Llandeilo Road gysylltu â’r bwrdd iechyd drwy anfon e-bost at HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 0300 303 8322 estyniad 4 i gael eu rhoi ar restr gadw ar gyfer y ddeintyddfa newydd unwaith y bydd y gwasanaeth yn ei le.

I gael gwybodaeth am sut y gallwch gael mynediad at ofal deintyddol y GIG mewn deintyddfa arall, ewch i Deintyddol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) neu cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Deintyddol yn HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk