Neidio i'r prif gynnwy

Dathliadau dwbl i fydwragedd cymunedol Ceredigion

Mae bydwragedd cymunedol yng ngogledd Ceredigion yn dathlu ar ôl ennill dwy wobr yn gydnabyddiaeth am eu sgiliau geni yn y cartref.

Cydnabuwyd y tîm yn ystod Gwobrau Mamolaeth a Bydwreigiaeth y flwyddyn hon am eu hymdrechion i hyrwyddo'r gwasanaeth geni yn y cartref a chynyddu'r gyfradd leol o enedigaethau cartref yn sylweddol.

Mae'r tîm hefyd wedi ennill gwobr Ymddiriedolaeth Bydwreigiaeth Iolanthe, a fydd yn galluogi'r tîm i fanteisio ar weithdy 'Sgiliau Priodol a Lleoedd Priodol' er mwyn gwella'r gwasanaeth genedigaethau cartref.

Dywedodd Becky Westbury, Arweinydd Tîm Bydwragedd Cymunedol Gogledd Ceredigion: "Mae'r tîm yn llawn cyffro o fod wedi cael ei enwi yn Dîm y Flwyddyn yn y Gwobrau Mamolaeth a Bydwreigiaeth. 

"Rydym yn teimlo ein bod yn cydweithio'n dda iawn â'n gilydd i gynnig parhad o ran gofal, ac mae'r gofal hwnnw wedi cael ei deilwra i ddiwallu anghenion unigol menywod a theuluoedd. 

"Rydym wedi gweithio’n galed i ailsefydlu gwasanaeth genedigaethau cartref yn ein hardal, ac rydym yn falch o allu cynnig dewis i fenywod. 

“Mae’r gyfradd o ran genedigaethau cartref wedi cynyddu’n sylweddol er 2018, ac rydym wedi cael adborth hyfryd gan fenywod a theuluoedd am y gwasanaeth. 

“Fel tîm, mae pob un ohonom yn mwynhau ein swyddi yn fawr iawn ac yn falch o allu cefnogi menywod a theuluoedd ar adeg mor bwysig yn eu bywydau.”

Mae'r tîm wedi gweithio'n galed i gynyddu nifer y genedigaethau cartref. Yn 2018, cafodd dau faban ei eni yn y cartref yn y sir, ac mae hynny wedi cynyddu'n sylweddol eleni gydag 11 o enedigaethau cartref hyd yma.

Ychwanegodd Becky: “Bydd y cyllid gan Ymddiriedolaeth Bydwreigiaeth Iolanthe yn galluogi'r bydwragedd i fynychu cwrs sgiliau geni yn y cartref arbenigol, a fydd yn gwella eu gwybodaeth a'u harbenigedd ymhellach, yn ogystal â gwella'r gofal a ddarperir i fenywod a theuluoedd. 

“Rydym yn frwd dros gefnogi menywod i roi genedigaeth mewn lleoliad o'u dewis, ac mae cael cartref diogel a gwasanaeth genedigaethau cartref llwyddiannus yn sicrhau bod y dewisiadau hynny ar gael iddynt.”