Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar achos wedi'i gadarnhau o frech y mwncïod

26 May 2022

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd):

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Iau 26 Mai) yn cadarnhau bod achos o frech y mwncïod wedi'i nodi yng Nghymru.

“Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), Iechyd Cyhoeddus yr Alban, ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd Gogledd Iwerddon, ac rydym yn barod i ymateb i achosion o frech y mwncïod yng Nghymru.

“Mae'r achos yn cael ei reoli'n briodol.  I ddiogelu cyfrinachedd cleifion, ni fydd rhagor o fanylion yn ymwneud â'r claf yn cael eu datgelu.

“Rydym yn rhoi sicrwydd i bobl nad yw brech y mwncïod fel arfer yn lledaenu'n hawdd rhwng pobl, ac mae'r risg gyffredinol i'r cyhoedd yn isel iawn.  Mae fel arfer yn salwch ysgafn hunangyfyngol, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn ychydig wythnosau.  Fodd bynnag, gall salwch difrifol ddigwydd mewn rhai unigolion.

“Ymhlith symptomau cychwynnol brech y mwncïod mae twymyn, pen tost/cur pen, poenau yn y cyhyrau, poen cefn, nodau lymff chwyddedig, oerfel a blinder.  Gall brech ddatblygu, dan ddechrau'n aml ar yr wyneb, yna lledaenu i rannau eraill o'r corff, yn enwedig y dwylo a'r traed.  Mae'r frech yn newid ac yn mynd drwy wahanol gamau cyn magu crachen, sy'n disgyn yn ddiweddarach.

“Gofynnir i bawb fod yn ymwybodol o symptomau brech y mwncïod, ond mae'n bwysig bod dynion hoyw a deurywiol yn effro gan y credir ei bod yn lledaenu mewn rhwydweithiau rhywiol.

“Dylai unrhyw un sydd â brechau neu friwiau anarferol ar unrhyw ran o'u corff gysylltu â GIG 111 neu ffonio gwasanaeth iechyd rhywiol os oes ganddynt bryderon.”

Mae achosion o frech y mwncïod yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn cael eu hadrodd ar wefan UKHSA (agor mewn dolen newydd).