Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar y cyd gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion.

Ar hyn o bryd mae galw digynsail ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, sy’n arwain at oedi sylweddol yn ddarpariaeth gofal. Yn syml, mae’r anhawster i ryddhau cleifion sy’n ddigon iach yn feddygol o’r ysbyty – y mae gan lawer ohonynt amgylchiadau ac anghenion personol cymhleth – yn arwain at brinder sylweddol o welyau, ac o ganlyniad, ambiwlansys yn aros am amser hir wrth ‘drws ffrynt’ adrannau damweiniau ac achosion brys, sy’n golygu ni all parafeddygon ymateb i alwadau 999 eraill yn y gymuned. 

Mae timau gofal cymdeithasol ac iechyd yn gwneud popeth posibl i gefnogi pobl sy'n ddigon gwell i adael yr ysbyty ond sydd angen gofal parhaus. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed, ac mae pecynnau iechyd a gofal amgen yn cael eu cynnig fel mesur tymor byr. Mae mwy o ofalwyr a staff iechyd hefyd yn cael eu recriwtio i gefnogi pobl mewn angen.

Os oes gennych berthynas neu rywun sy’n annwyl i chi yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael eu rhyddhau â gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch eu helpu i gyrraedd adref yn gyflymach os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i gefnogi nhw gartref. Os yw’ch perthynas yn aros am becyn gofal ffurfiol, efallai y gallwch gynnig cefnogaeth a gofal ar drefniant tymor byr, dros dro neu efallai yr hoffech ystyried a ellid cefnogi’ch anwylyn mewn lleoliad gofal preswyl neu nyrsio dros dro. Os ydych chi’n teimlo bod hwn yn opsiwn y gallech chi ei ystyried, siaradwch â rheolwr y ward neu’ch gweithiwr cymdeithasol i archwilio ymhellach.

Mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty yn well i gleifion ac mae’n golygu y gellir rhyddhau gwelyau’r GIG i eraill ag anghenion gofal brys. Mae cefnogi cleifion hŷn i gyrraedd adref o’r ysbyty yn effeithlon yn rhan bwysig o’u hadferiad ac mae hefyd yn eu hamddiffyn rhag canlyniadau negyddol derbyn i'r ysbyty, fel haint a gafwyd yn yr ysbyty, cwympiadau a cholli annibyniaeth. Gallwch ddarganfod mwy am y broses rhyddhau o’r ysbyty ac arweiniad yma: Gwybodaeth i gleifion mewnol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Mae eich cefnogaeth nid yn unig yn helpu’ch anwylyd, ond mae’n gefnogaeth enfawr i'r GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd. 

Diolch.