Neidio i'r prif gynnwy

Cyrchu Gwasanaethau Deintyddol Brys dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

17 Rhagfyr 2021

Mae trefniadau ar waith ar gyfer pobl sydd angen triniaeth ddeintyddol frys neu arferol dros yr ŵyl.

Cynghorir y cyhoedd yn gryf i ymgynghori â'r cyngor canlynol pe bai angen gofal deintyddol brys arnynt yn ystod yr amser hwn.

Gofal Deintyddol Brys

Os oes gennych angen deintyddol brys, cysylltwch â'ch practis deintyddol eich hun neu, ar y dyddiadau canlynol, cysylltwch â 111 a fydd yn gallu darparu'r cyngor a / neu'r apwyntiad priodol i fynychu'r Gwasanaethau Deintyddol Brys:

Dydd Nadolig – 25 Rhagfyr               

Dydd San Steffan - 26 Rhagfyr          

27 Rhagfyr       

28 Rhagfyr               

1 Ionawr         

2 Ionawr

3 Ionawr   

Os ydych chi'n derbyn triniaeth ddeintyddol frys bydd y gost yn £14.70 oni bai eich bod wedi'ch eithrio rhag talu taliadau GIG. Os ydych wedi'ch eithrio rhag talu taliadau deintyddol gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o hyn pan fyddwch chi'n mynychu'ch apwyntiad.

Bydd lleoliad y gwasanaethau hyn yn amrywio ar draws yr ŵyl, gwneir pob ymdrech i gynnig apwyntiadau mor agos â phosibl i'ch cartref.

Nid yw'r ddannoedd ar ei phen ei hun heb unrhyw symptomau cysylltiedig yn argyfwng deintyddol ac ni ddylech fynd i adran achosion brys.

Mae'r canlynol yn cael eu cyfrif fel argyfwng:

• Gwaedu yn dilyn llawdriniaeth ddiweddar na fydd yn stopio, er enghraifft ar ôl echdynnu dannedd

• Mwy o chwydd sy'n achosi anhawster anadlu / a llyncu

• Niwed i ddannedd neu ên o ganlyniad i ddamwain

Gofal Deintyddol Arferol

Dylai cleifion gysylltu â'u practis GIG arferol i ddechrau, a fydd yn asesu ac yn darparu triniaeth lle bo hynny'n bosibl. Tra bydd practisau deintyddol ar agor i ddarparu gofal brys a hanfodol i'w cleifion, gellir newid amseroedd a dyddiadau agor a dylai cleifion gysylltu â'u practis eu hunain i gael gwybodaeth.

Dylai cleifion heb bractis deintyddol rheolaidd barhau i gysylltu â 111 a fydd yn eich brysbennu. Byddwch yn derbyn cyngor ar reoli eich poen deintyddol ac os yw'n briodol bydd aelod o'r Tîm Gwasanaethau Deintyddol yn trefnu i chi gael eich gweld gan y Gwasanaeth Deintyddol Brys.

Am wybodaeth gyswllt ar gyfer practisau deintyddol, ewch i: Practisau deintyddol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Mae pellter cymdeithasol ar waith ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff gofal sylfaenol. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu drin yn defnyddio'r PPE priodol ac mae sgriniau amddiffynnol ar waith mewn cownteri a derbynfeydd.