27 Hydref 2026
Cafodd cynrychiolwyr o grwpiau cymunedol, sefydliadau partner a rhanddeiliaid lleol ddiweddariad ar y cynnydd tuag at y Ganolfan Gofal Brys newydd yn Ysbyty Tywysog Philip.
Mae'r ymweliad yn nodi carreg filltir arall mewn taith lle mae pobl leol, staff, grwpiau cymunedol, cynrychiolwyr etholedig a sefydliadau partner wedi chwarae rhan bwysig mewn trafodaethau ynghylch dyfodol gwasanaethau gofal iechyd yn Llanelli.
(Chwith i'r Dde) Anna Thomas (Is-reolwr Cyffredinol Ysbyty Tywysog Philip), Jonathan Rose (SOSPPAN), y Cynghorydd Deryk Cundy (Cadeirydd, SOSPPAN), y Cynghorydd Michael Thomas (Llais), Claire Thomas (Ymarferydd Gofal Uwch), Wendy Edwards (Prif Nyrs Iau, Uned Mân Anafiadau), Jon Morris (Arweinydd Clinigol, Uned Mân Anafiadau) Mae cynrychiolwyr SOSPPAN a Llais yn trafod cynlluniau gyda staff ar gyfer y Ganolfan Gofal Brys newydd, ac yn adolygu drafftiau o ddeunyddiau gwybodaeth i'r cyhoedd, yn ystod ymweliad ag Ysbyty Tywysog Philip. Cynhaliwyd yr ymweliad cyn agoriad arfaethedig y Ganolfan Gofal Brys newydd yn Llanelli ddiwedd mis Tachwedd.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2025, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gynlluniau i ddatblygu Uned Mân Anafiadau (UMA) yr ysbyty yn Ganolfan Gofal Brys newydd. Daeth y penderfyniad yn sgil ymgynghori ac ymgysylltu helaeth â chymunedau lleol, ac ar ôl ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer dyfodol gwasanaethau gofal brys.
Bydd y gwasanaeth newydd, sydd i fod i ddechrau ddiwedd mis Tachwedd, yn dod â'r UMA a gwasanaethau Gofal Brys yr Un Diwrnod sydd eisoes yn bodoli yn yr ysbyty at ei gilydd. Bydd yn cynnig asesiad a thriniaeth ar gyfer ystod ehangach o gyflyrau brys – nad ydynt yn peryglu bywyd – yn nes at adref.
Yn ystod yr ymweliad, clywodd rhanddeiliaid am y cynnydd o ran recriwtio staff, cynllunio gwasanaethau, a pharatoadau ar gyfer y model gofal newydd. Trafodasant hefyd y cynlluniau ar gyfer ymgyrch wybodaeth gyhoeddus, i helpu pobl yn Llanelli a'r cyffiniau i ddeall y gwasanaeth newydd a phryd i'w ddefnyddio.
Mae amrywiaeth o daflenni, cynnwys gwefan ac adnoddau yn cael eu datblygu. Bydd y rhain yn egluro beth mae'r Ganolfan Gofal Brys yn ei wneud, y gofal y mae'n ei ddarparu, a sut i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd eraill pan fo angen.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i ymgysylltu â chymunedau a sefydliadau yn ystod y cyfnod gweithredu. Bydd yr ymgysylltu hwn yn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth am y gwasanaeth newydd mewn fformatau priodol a hygyrch.
Dywedodd Deryk Cundy, Cadeirydd Save Our Services Prince Philip Action Network (SOSPAN):
“Rydym wedi bod yn ymgyrchu am well gwasanaethau gofal brys lleol yn Llanelli – gwasanaethau sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif – ers dros 15 mlynedd. Rydym wedi chwarae rhan allweddol yn y broses hon, o’r cam ymgynghori hyd at y cam gweithredu. Mae’r Gwasanaeth Gofal Brys yn fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal, ac rydym wrth ein bodd bod Hywel Dda wedi dewis ei leoli yn Ysbyty Tywysog Philip.”
Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol: "Mae pobl yn Llanelli yn poeni'n fawr am wasanaethau gofal iechyd yn Ysbyty Tywysog Philip, ac rydym yn cydnabod bod barn gref wedi bod ynghylch dyfodol gwasanaethau gofal brys yn ystod y blynyddoedd diwethaf."
“Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, a fynychodd gyfarfodydd, a rannodd adborth neu a weithiodd gyda ni i helpu i lunio'r model hwn. Mae hyn yn cynnwys unigolion a sefydliadau a fynychodd gyfarfodydd, a ofynnodd gwestiynau, ac a helpodd i sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed.
“Mae'r Ganolfan Gofal Brys yn adlewyrchu'r hyn rydym wedi'i glywed gan ein cymunedau ynghylch yr angen am wasanaeth diogel a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion lleol, tra'n cynnig mynediad at ystod ehangach o ofal brys yn nes at y mannau lle mae pobl yn byw.”
Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Ganolfan Gofal Brys. Mae hyn wedi cynnwys recriwtio staff, datblygu ffyrdd newydd o weithio, a sicrhau bod y gwasanaeth yn barod i gynnig mynediad i gleifion at ystod o wasanaethau gofal brys yn nes at eu cartrefi. Bydd y newid hwn yn dod â gwasanaethau ynghyd, gan helpu i greu model mwy gwydn ar gyfer y dyfodol, tra hefyd yn cryfhau darpariaeth gofal brys yn Ysbyty Tywysog Philip.
Yn y cyfamser, mae UMA Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i ddarparu gofal i gleifion saith diwrnod yr wythnos, rhwng 8am ac 8pm. Dylai pobl leol barhau i ddefnyddio'r UMA fel arfer tra bod paratoadau ar gyfer y Ganolfan Gofal Brys yn parhau.
Os ydych yn byw yn Llanelli, neu'n ymweld â'r dref, ac yn dioddef mân anaf yn ystod y dydd (8am–8pm), gallwch barhau i fynd yn syth i'r UMA yn Ysbyty Tywysog Philip.
Ar gyfer anafiadau y tu allan i'r oriau hyn, defnyddiwch:
Bydd mwy o wybodaeth am y Ganolfan Gofal Brys yn cael ei rhannu cyn iddi agor ar ddiwedd y mis nesaf.