Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor yn addasu adeiladau i greu gwelyau GIG ar gyfer COVID

Diweddariad COVID Hywel Dda

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu cannoedd o welyau ychwanegol, rhag ofn bydd eu hangen ar y GIG dros yr wythnosau nesaf.

Wrth baratoi ac ymateb i heriau nad ydym wedi gweld eu tebyg o'r blaen, mae'r Cyngor yn gweithio gyda Chyngor Tref Llanelli a'r sector preifat i helpu'r Bwrdd Iechyd i reoli cynnydd disgwyliedig yn y galw am ofal.

Dros y dyddiau nesaf, bydd contractwyr yn cael eu comisiynu i greu llefydd yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin a - gyda chefnogaeth Cyngor Tref Llanelli Canolfan Selwyn Samuel.

Mae Parc y Scarlets hefyd wedi bod yn hael wrth gynnig rhan helaeth o'i safle ac adeiladau am ddim i'r awdurdod lleol i'w haddasu at ddefnydd y GIG.

Dywedodd Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Hywel Dda: "Bydd darparu'r gwelyau ychwanegol hyn i gleifion yn hanfodol i'n helpu i reoli llif y cleifion dros yr wythnosau nesaf, ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gymorth rydym yn ei gael gan yr awdurdod lleol, sy'n bartner i ni, i helpu i wneud i hyn ddigwydd.

"Rydym wedi cadw llygad barcud ar y sefyllfa yn yr Eidal i ddysgu lle bo modd ac i helpu wrth i ni gynllunio. Mae ein cydweithwyr yn Ewrop wedi dweud bod llif y cleifion yn ffactor allweddol wrth ymateb i'r pwysau mae COVID-19 yn ei roi ar y system."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'n hanfodol bod y GIG a Llywodraeth Leol yn rhannu eu harbenigedd yn y cyfnod eithriadol hwn er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd y camau brys hyn.

"Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn oresgyn yr heriau hyn. Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Llanelli a Pharc y Scarlets am eu cefnogaeth." 

Mewn cyd-ddatganiad dywedodd Jake Morgan, Cyfarwyddwr Cymunedau Cyngor Sir Caerfyrddin, ac Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae manylion ynglyn â'r cyfleusterau hyn yn cael eu llunio gyda chlinigwyr. Bydd y rhain yn gyfleusterau a reolir gan y GIG gyda llawer o wasanaethau cymorth yn cael eu darparu gan yr awdurdod lleol a phartneriaid masnachol presennol.

"Datblygu'r rhain yn gyflym yw ein blaenoriaeth ac rydym yn gobeithio y bydd rhai elfennau o'r cyfleusterau hyn ar waith ar ddechrau mis Mai.

"Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio'n agos iawn gyda phob un o'n tri awdurdod lleol i ddatblygu cyfleusterau tebyg a darperir rhagor o wybodaeth wrth i gynnydd gael ei wneud ar y mesurau hyn."