Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid ar gyfer menter y celfyddydau a iechyd meddwl

13 Hydref 2021

Dyfarnwyd cyllid i'r bwrdd iechyd o raglen a grëwyd ar y cyd gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi menter celfyddydau a iechyd meddwl newydd.

Bydd arian rhaglen Celf a’r meddwl | Arts and minds, yn cefnogi Art Boost, sy'n rhaglen celfyddydau ym maes iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw gydag anhwylderau bwyta, ymddygiadau hunan-niweidio, hwyliau isel a / neu sydd â theimladau hunanladdol.

Dywedodd Angela Lodwick, Prif Arbenigwr, S-CAMHS: "Mae'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a'r Glasoed yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd â'n cydweithwyr celf i alluogi plant a phobl ifanc i gael cyfle i ymgysylltu ag artistiaid lleol mewn gweithgareddau celfyddydau creadigol, yn ogystal â seicotherapïau ffurfiol er mwyn cynyddu'r cyfle i fynegiant creadigol.

“Bydd y rhaglenni celf a nodwyd yn galluogi ymyrraeth gynnar ac atal iechyd emosiynol a meddyliol trwy nodi emosiynau trwy fynegiant celf, cynyddu gwytnwch, datrys problemau trwy weithgareddau celf a hyrwyddo ymlacio, lleihau straen a hunan-leddfu trwy weithgareddau celf."

Roedd Hywel Dda yn un o saith bwrdd iechyd i dderbyn cyllid gan y rhaglen Celf a’r meddwl | Arts and minds.

Nod Celf a’r meddwl | Arts and minds yw cefnogi gwell iechyd meddwl yng Nghymru ac fe’i ariennirgan y Loteri Genedlaethol.