Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad ar frechlyn COVID-19 – diweddariad BIP Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwneud paratoadau terfynol i gyflawni ei raglen brechu torfol yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Mercher bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi rhoi awdurdodiad dros dro i’r brechlyn Pfizer/BioNTech i’w ddefnyddio.

I ddechrau, dim ond niferau bach o’r brechlyn fydd ar gael oherwydd gofynion storio’r brechlyn Pfizer/BioNTech. Ymhlith y grwpiau blaenoriaeth ar gyfer cyflenwadau cychwynnol y brechlyn hwn mae staff llinell blaen iechyd a gofal cymdeithasol sydd â chyswllt uniongyrchol â chleifion a chleientiaid ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Rydym yn adolygu ein cynlluniau yn barhaus ar sail derbyn cyflenwadau pellach.

Rydym yn barod i ddefnyddio’r brechlyn fesul cam pan fydd yn cyrraedd. Bydd staff cymwys rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol yn cael manylion am sut y byddant yn cael y brechlyn, a hynny cyn gynted â phosib.

 

Gofynnir i’r cyhoedd beidio â chysylltu a’u meddygfeydd na’u fferyllfeydd i holi am y brechlyn ar yr adeg hon.

Meddai Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: “Mae brechu yn achub bywydau ac mae cyhoeddiad dydd Mercher yn foment wirioneddol arwyddocaol.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb o sefydliadau o bob rhan o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sydd, dros y misoedd diwethaf, wedi cyd-weithio’n ddiflino i sicrhau ein bod yn barod i ddarparu’r brechlyn hwn i ddiogelu ein staff rheng flaen a’r rhai sy’n agored i niwed yn ein cymuned.

“Rydym yn barod i ddefnyddio’r brechlyn fesul cam, gan ddechrau gyda staff rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd staff cymwys yn cael manylion am sut y byddant yn cael y brechlyn, a hynny cyn gynted â phosib.

“Peidiwch â cysylltu â’ch meddygfa na’ch fferyllfa yn gofyn am y brechlyn. Cyn gynted ag y bydd y brechlyn ar gael i’ch grŵp cymwys, byddwch yn cael gwybod a byddwch yn medru gwneud apwyntiad.”

Mewn paratoad, mae BIP Hywel Dda wedi sefydlu dwy ganolfan frechu er mwyn darparu’r cyflenwadau cynnar hyn, un yng Nghaerfyrddin ac un yn Ceredigion. Gwaherddir mynychu’r canolfannau hyn heb apwyntiad.

Yn ddealladwy, bydd llawer o gwestiynau am y brechlyn COVID-19. Ni fyddai brechlyn wedi cael ei gymeradwyo a’i ryddhau pe na bai’n ddiogel. Trowch at http://phw.nhs.wales/covid-19-vaccination am fwy o wybodaeth ynghylch cymhwysedd a diogelwch y brechlyn.