Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi enillwyr rhanbarthol yng Ngwobrau MUM y DU 2023

11 Hydref 2023

Yn ddiweddar, enillodd tîm Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o Ysbyty Bronglais wobr ranbarthol Cymru yng Ngwobrau MUM y DU (Maternity Unit Marvels)™ 2023 i gydnabod y rôl y maent yn ei chwarae wrth gefnogi darpar rieni.

Trefnir y gwobrau gan Baby Lifeline, elusen diogelwch mamolaeth flaenllaw, i alluogi rhieni, gwarcheidwaid, a theuluoedd i ddiolch i’r timau o weithwyr proffesiynol a wnaeth genedigaeth eu plentyn yn bosibl.

Agorodd Baby Lifeline enwebiadau gwahoddedig, ac agorodd y bleidlais, ar gyfer ei Gwobrau MUM ym mis Mai 2023. Anogwyd aelodau o'r cyhoedd a oedd wedi profi cymhlethdodau neu broblemau gyda beichiogrwydd neu enedigaeth yn yr wyth mlynedd diwethaf (babanod a anwyd ar ôl 2 Mai 2015) i enwebu'r tîm o weithwyr proffesiynol a oedd yn gofalu amdanynt a sicrhaodd bod y baban yn goroesi.

Cynhaliwyd Cinio Mawreddog Gwobrau MUM, lle cyhoeddwyd enillwyr y gwobrau, gan y cyflwynydd teledu Nick Owen yng Ngholeg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynaecolegwyr ddydd Iau 5 Hydref 2023.

Dywedodd Kathryn Greaves, Pennaeth Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ennill y wobr wedi bod yn gydnabyddiaeth wych o ymdrechion ar y cyd ein tîm yn Hywel Dda. Mae gwybod ein bod wedi cael ein henwebu a’n bod wedi pleidleisio drosto gan aelodau’r cyhoedd, pobl rydym wedi gweithio gyda nhw i’w cefnogi yn ystod eu beichiogrwydd a’u genedigaethau, yn ei gwneud yn hynod o arbennig i ni.

“Diolch i’r teuluoedd a enwebodd y tîm bydwreigiaeth yn Hywel Dda, mae’n anrhydedd gweithio gyda chi yn ystod un o adegau mwyaf gwerthfawr bywyd.”

Gwahoddwyd aelodau o dîm Hywel Dda hefyd i ddigwyddiad preifat ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol enwebedig yn Stryd Downing, i gydnabod eu cyfraniad a'u cyflawniad wrth gael eu henwebu ar gyfer y wobr.

Ychwanegodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwyf wrth fy modd i Kathryn a’r tîm – maen nhw wedi gweithio’n hynod o galed dros y blynyddoedd i gefnogi aelodau o’n cymunedau. Gall beichiogrwydd fod yn gyfnod cyffrous a phryderus, ac mae ein timau’n gwneud eu gorau glas i sicrhau eu bod yn trin pob claf â thosturi a’r gofal gorau posibl.

“Diolch i bob aelod o’r tîm sydd wedi chwarae eu rhan i ennill y wobr, ac i’r cleifion a’r teuluoedd a enwebodd a phleidleisiodd dros Hywel Dda.”

Mae bron i 3000 o fabanod yn cael eu geni bob blwyddyn yn Hywel Dda gyda’r tîm bydwreigiaeth yn cefnogi pobl gartref, yn y gymuned, ac yn ein hysbytai.

DIWEDD

Ynglŷn â Baby Lifeline

Mae Baby Lifeline yn elusen genedlaethol unigryw a'i chenhadaeth yw gwneud gofal yn fwy diogel ac yn well ar gyfer pob menyw feichiog, person sy’n geni, a babi newydd-anedig ledled y DU a ledled y byd. Mae’n gwneud hyn drwy gefnogi a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol y GIG sydd wrth wraidd gofal – prynu offer, datblygu a darparu hyfforddiant hanfodol, a chynnal ymchwil.

Sefydlwyd Baby Lifeline gan Judy Ledger dros 40 mlynedd yn ôl ar ôl colli ei thri baban cyntaf yn drasig a gafodd eu geni’n rhy fach yn anffodus i oroesi. I ddechrau, aeth Judy ati i godi arian ar gyfer un crud cynnal yn ei huned newyddenedigol leol. Pedwar degawd yn ddiweddarach, mae Baby Lifeline bellach yn cael ei chydnabod fel un o brif elusennau mamau a babanod newydd-anedig y DU.

Ochr yn ochr â sefydliadau cenedlaethol eraill, mae Baby Lifeline yn cyfrannu at gyflawni’r Uchelgais Cenedlaethol o leihau marw-enedigaethau, marwolaethau newyddenedigol a mamau, ac anafiadau i’r ymennydd mewn babanod sy’n digwydd yn ystod neu’n fuan ar ôl genedigaeth 50 y cant erbyn 2025.

Cefnogir y gwobrau gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynaecolegwyr (RCOG) a'u noddi gan Irwin Mitchell a Leigh Day.