28 Medi 2026
Bydd cleifion sy'n derbyn gofal gan wasanaeth deintyddol cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn elwa ar wasanaeth negeseuon testun newydd o mis Hydref 2026 ymlaen.
Gall y negeseuon testun hyn gynnwys nodiadau atgoffa am apwyntiadau, dolenni i lenwi ffurflenni cyn yr apwyntiad, a gwahoddiadau i roi adborth ar ôl apwyntiadau.
Mae'r gwasanaeth deintyddol cymunedol yn darparu gofal deintyddol i oedolion a phlant agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl a allai wynebu anawsterau wrth geisio a derbyn triniaeth ddeintyddol mewn practis deintyddol cyffredinol.
Mae'r gwasanaeth negeseuon testun yn anelu at wella cyfathrebu â chleifion, a bydd yn helpu timau clinigol i wneud y gorau o'u hamser gyda'u cleifion.
Anogir defnyddwyr y gwasanaeth deintyddol cymunedol i wirio bod eu manylion cyswllt yn gyfredol, gan gynnwys rhif ffôn symudol a chyfeiriad e-bost. Os yw eich manylion cyswllt wedi newid, rhowch wybod i aelod o'r staff yn eich apwyntiad nesaf.
Gallwch hefyd gysylltu â'r gwasanaeth deintyddol cymunedol yn uniongyrchol i ddiweddaru eich cofnodion drwy ffonio 0300 303 8322 (dewiswch opsiwn 4) neu anfon e-bost at HDUHB.CommunityDentalService.HDD@wales.nhs.uk.
Dywedodd Marie Mickiewicz, Pennaeth Gwasanaethau Deintyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gobeithio y bydd cleifion, gofalwyr a staff ar draws ein gwasanaeth deintyddol cymunedol yn elwa ar ein gwasanaeth negeseuon testun newydd.
“Bydd nodiadau atgoffa drwy neges destun a ffurflenni digidol yn gwneud apwyntiadau'n haws eu rheoli ac yn ei gwneud yn symlach i gadw mewn cysylltiad â'n timau.
“Bydd y newidiadau hyn hefyd yn lleihau gwaith papur ac yn rhoi mwy o amser i’n staff gefnogi cleifion.
“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn lleihau nifer yr apwyntiadau a fethwyd ac yn helpu i sicrhau bod mwy o amseroedd apwyntiad ar gael ar gyfer gofal cleifion.”
Er mwyn diogelu cleifion rhag twyll, dim ond materion yn ymwneud â'u gofal deintyddol fydd yn cael eu cynnwys mewn negeseuon testun gan y gwasanaeth deintyddol cymunedol. Ni fydd gofyn i gleifion byth ddarparu cyfrineiriau na gwybodaeth sensitif arall, fel manylion banc neu fanylion talu. Os byddwch yn derbyn neges sy'n ymddangos yn amheus, cysylltwch â'r gwasanaeth i wirio.
Bydd cleifion na allant ddefnyddio dolenni negeseuon testun na ffurflenni digidol yn parhau i gael eu cefnogi gan y gwasanaeth fel y maent ar hyn o bryd.
Mae'r gwasanaeth deintyddol cymunedol yn darparu gofal deintyddol i oedolion a phlant agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl a allai wynebu anawsterau wrth geisio a derbyn triniaeth ddeintyddol mewn practis deintyddol cyffredinol.
Gwasanaeth atgyfeirio yn unig yw'r gwasanaeth deintyddol cymunedol. Rhaid i gleifion gael eu hatgyfeirio gan ddeintydd cyffredinol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol (er enghraifft meddyg teulu neu ymwelydd iechyd) i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Am ragor o wybodaeth, ewch i biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/deintyddol/gwasanaeth-deintyddol-cymunedol-cds (yn agor mewn tab newydd).