Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleoedd celf ar gael fel rhan o brosiect uned trin canser Ysbyty Bronglais

29 Medi 2023

Mae prosiect uned trin canser Ysbyty Bronglais, a fydd yn gweld ailgynllunio ac adnewyddu’r Uned Ddydd Cemotherapi presennol yn llwyr, yn troi ei ffocws tuag at amgylchedd a gwaith celf yr uned.

Gall gwaith celf wella profiad y claf a’r staff trwy ddarparu caredigrwydd a thosturi, dealltwriaeth, urddas a chysur ac felly fel rhan o’r prosiect, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Celf Gyhoeddus wedi’i sefydlu dan gadeiryddiaeth Dr Elin Jones, Oncolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Bronglais.

Pwrpas y grŵp yw helpu i gyflawni’r weledigaeth a rennir ar gyfer rôl celf o fewn yr uned newydd a chreu awyrgylch cyfforddus a llonydd sy’n adlewyrchu’n well y gwasanaeth o ansawdd uchel a ddarperir i gleifion ac mae cyfle ar gyfer claf presennol neu’r gorffennol â phrofiad byw o Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais i ymuno â'r grŵp fel cynrychiolydd cleifion.

Rôl wirfoddol yw hon ac er na fydd tâl am eich amser, mae hwn yn gyfle i ddefnyddio eich profiad o’r uned bresennol i helpu i greu uned newydd sy’n arbennig ac unigryw am flynyddoedd lawer i ddod.

Dywedodd Dr Elin Jones: “Mae hwn yn gyfle gwych i rywun ymuno â’n Grŵp Gorchwyl a Gorffen Celf Gyhoeddus i’n helpu i gael yr awyrgylch a’r gwaith celf ar gyfer yr uned newydd yn iawn i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff.

“Mae’r grŵp yn cyfarfod yn fisol, a byddwn yn gofyn i’r unigolyn llwyddiannus fynychu ein cyfarfodydd misol naill ai’n bersonol neu ar-lein a gweithio gydag ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol ar y grŵp i’n galluogi i greu’r amgylchedd gorau mewn pryd i’r uned ailagor ym mis Rhagfyr 2024.”

Gall cleifion presennol neu gyn-gleifion Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais fynegi eu diddordeb yn y rôl wirfoddol hon trwy lenwi'r ffurflen hon https://forms.office.com/e/CPytjiAi6W neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â Gweinyddwr Tîm Celfyddydau ac Iechyd Hywel Dda Gabrielle.walters@wales.nhs.uk.

Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Celf Gyhoeddus hefyd yn gwahodd artistiaid gweledol proffesiynol, peintwyr, darlunwyr, artistiaid gwydr, gwneuthurwyr a dylunwyr sydd â phrofiad o greu gwaith celf ar gyfer lleoliad cyhoeddus/gofal iechyd i fynegi eu diddordeb mewn creu gwaith/gweithiau celf pwrpasol ar gyfer yr uned erbyn dydd Mawrth. 10 Hydref 2023.

Mae'r grŵp yn awyddus i gomisiynu artistiaid sydd â phrofiad o greu gwaith celf ar gyfer lleoliad cyhoeddus/gofal iechyd a pherthynas â Cheredigion a/neu ganolbarth Cymru, neu ddealltwriaeth ohonynt.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://wahwn.cymru/cy/cyfleodd

Nodiadau i'r golygydd:

Comisiwn Hunaniaeth Weledol

Comisiwn y Fynedfa