Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod blynyddol bwrdd iechyd yn myfyrio ar flwyddyn ryfeddol arall 

28 Medi 2023

Gan fyfyrio ar flwyddyn ryfeddol arall, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi edrych yn ôl ar ei gyflawniadau a’i heriau drwy gydol 2022/23 yn ystod ei gyfarfod cyffredinol blynyddol. 

Heddiw [dydd Iau 28 Medi 2023], bu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn adolygu Adroddiad Blynyddol y sefydliad, gan gynnwys ei gyfrifon ariannol. Mae’r adroddiad a’r cyflwyniadau yn nodi i staff, cleifion, a’r cyhoedd yr hyn a gyflawnwyd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, yr hyn sydd wedi bod yn heriol, a sut mae’r bwrdd iechyd yn bwriadu gwella gwasanaethau i bobl leol. 

Roedd y prif themâu’n cynnwys sut mae’r bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd yn erbyn ei amcanion strategol, ei ymateb parhaus i COVID-19 a’i berfformiad yn erbyn nifer o fesurau gan gynnwys gofal wedi’i gynllunio, gofal brys a gofal argyfwng, canser, iechyd meddwl, gwasanaethau niwroddatblygiadol, rheoli heintiau a gweithlu.  

Cyfeiriwyd at fentrau newydd i gefnogi cleifion a gwella gwasanaethau, cynnydd trwy gyfleoedd ymchwil a phartneriaeth, datblygiadau gweithlu a datblygiadau cyfalaf ar draws y tair sir. Darparwyd cynnydd ar amcanion llesiant, gwasanaethau Cymraeg, a chyflwyniad achos busnes y bwrdd iechyd ar gyfer buddsoddiad o £1.3biliwn yn ei strategaeth hirdymor. Rhoddwyd canmoliaeth hefyd i’r holl staff, gan gynnwys y rhai sydd wedi ennill neu ar y rhestr fer ar gyfer dwsinau o wobrau lleol a chenedlaethol yn ogystal ag i’r bwrdd iechyd fel cyflogwr. 

Cydnabuwyd hefyd gefnogaeth cleifion, teuluoedd a chymunedau lleol i elusen y bwrdd iechyd, Elusennau Iechyd Hywel Dda. Darparwyd enghreifftiau o weithgareddau codi arian a gyfrannodd at £3.99miliwn o incwm elusennol, ac o'r llu o wasanaethau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i wariant craidd y GIG a ariannwyd gan yr elusen.

Yn ogystal â chyflwyno’r Adroddiad Blynyddol a chyfrifon ariannol, clywodd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd gan aelodau’r Academi Prentisiaethau. Rhannodd rhai o brentisiaid y bwrdd iechyd yr hyn y maent wedi’i fwynhau am eu hamser gyda’r bwrdd iechyd, a sut maent yn edrych ymlaen at ddatblygu eu gyrfa yn y sefydliad.

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar flwyddyn ryfeddol arall, ond hefyd i edrych ymlaen at 2023/24. Er bod pethau'n dal yn heriol iawn i'r GIG, mae gennym ni weledigaeth glir i'n helpu i wella o effaith y pandemig, mynd i'r afael â'n her ariannol hirsefydlog, ac adeiladu system iechyd wydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. 

“Rydym yn cydnabod hefyd fod mynediad i ystod eang o wasanaethau wedi’i gyfyngu dros y tair blynedd diwethaf, gan arwain at oedi mewn triniaeth a gofal o fewn ein bwrdd iechyd. Mae'n ddrwg iawn gennym os ydych wedi profi oedi cyn cael mynediad at eich gofal a'ch triniaeth. Er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau nifer y cleifion sy’n aros am driniaeth, rydym yn ymwybodol ei bod yn parhau i fod yn anodd i bobl sy’n dal i aros, neu y mae eu triniaeth wedi’i gohirio ymhellach. Rydym wedi ymrwymo i leihau ein rhestrau aros ymhellach i lefelau cyn-bandemig a chyrraedd targed Llywodraeth Cymru.  

“Mae’r ymateb llawn ffocws i’r pandemig wedi gadael gwaddol ariannol hefyd. Ni allem nodi a chyflawni arbedion ac effeithlonrwydd yn y ffordd y byddem fel arfer, ac o ganlyniad roeddem yn wynebu heriau ariannol sylweddol wrth i gyllid ar gyfer ymateb COVID-19 ddod i ben, gan olygu bod angen inni wneud iawn am ddwy flynedd o amser coll. 

“Mae penderfynoldeb ein staff yn parhau i’n syfrdanu, gyda chydweithwyr wedi ymrwymo i ddarparu’r gofal cleifion gorau posibl o dan amgylchiadau anodd.  

“Fel y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol olaf y byddaf yn ei gadeirio cyn fy ymddeoliad o’r bwrdd iechyd ym mis Hydref, rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i bawb sy’n gweithio o fewn, a gyda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, beth bynnag fo’ch rôl. Diolch hefyd i’n holl wirfoddolwyr, a’n partneriaid, am eich gwasanaeth rhyfeddol yn gofalu am gleifion a’n cymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn.”  

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn manylu ar feysydd lle mae angen i berfformiad y bwrdd iechyd wella, ynghyd â mesurau lliniaru a chamau gweithredu sy’n cael eu cymryd, mewn meysydd fel amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio, cleifion allanol, iechyd meddwl, gwasanaethau niwroddatblygiadol, a rheoli heintiau. Mae perfformiad yn y meysydd hyn a meysydd eraill wedi’i effeithio’n negyddol gan faterion gyda llif cleifion, aciwtedd cleifion, galw a chapasiti, a phrinder staff. 

Mae gwella ansawdd yn parhau i fod yn ffocws allweddol ar draws y sefydliad i sicrhau’r gofal mwyaf diogel a gorau i’n cleifion a’n cymuned, ac mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys gwrando ar adborth gan y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau, a gweithredu arno. 

Drwy gydweithio’n agos â’i bartneriaid ar weledigaeth a rennir ar gyfer ein cymunedau i fyw bywydau iach a llawen, mae’r bwrdd iechyd yn parhau i ymgysylltu â phobl leol ar bynciau fel ei strategaeth iechyd a gofal a’r broses arfarnu tir ar gyfer ysbyty newydd arfaethedig, dyfodol gwasanaethau plant ac ieuenctid, yn ogystal â newidiadau i rai meddygfeydd teulu lleol. 

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth i gefnogi grwpiau agored i niwed, cartrefi gofal, gofal cymdeithasol a rhyddhau diogel, wedi datblygu cyfleoedd newydd gyda phrifysgolion lleol ac yn parhau fel aelod gweithgar o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys. 

Mae copïau o agenda’r cyfarfod, papurau ac adroddiadau blynyddol ar gael yma. Bydd recordiad o'r CCB hefyd ar gael yn fuan (yn agor mewn tab newydd).