Neidio i'r prif gynnwy

Cofio dioddefwyr ar ddiwrnod Cofio'r Holocost

3 Chwefror 2023

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn cofio bywydau chwe miliwn o Iddewon a fu farw yn yr Holocost, ynghyd â’r miliynau o bobl eraill a laddwyd mewn hil-laddiadau dilynol yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Am 4pm ar 27 Ionawr, cynhaliodd Adran Gofal Ysbrydol Hywel Dda (Caplaniaeth) seremoni yn Hafan Derwen lle plannwyd coeden afalau sur eginblanhigyn i gofio am bawb a laddwyd.

Yn ystod y seremoni, siaradodd Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda am thema eleni o ‘bobl gyffredin’, sy’n ein hysgogi ac yn ein gwahodd i feddwl pa mor hawdd yw hi i ‘bobl gyffredin’ fod yn gyflawnwyr.

“Dylai pobl gyffredin fyfyrio ar sut i herio rhagfarn, gwahaniaethu a chasineb mewn cymdeithas/gweithle. Fel ‘pobl gyffredin’ mae angen i ni ddysgu o wersi’r gorffennol, a chynnig gwrthwynebiad a dyfalbarhau wrth greu dyfodol mwy diogel a gwell.”

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost hefyd yn cofio'r dioddefwyr eraill a fu farw. Lladdwyd pobl hoyw, offeiriaid, Sipsiwn, pobl ag anableddau meddyliol neu gorfforol, comiwnyddion, undebwyr llafur, Tystion Jehofa, anarchwyr, Pwyliaid a phobloedd Slafaidd eraill.

Darllenodd cynrychiolydd o’r gymuned Sipsiwn, Leanne Morgan, gerdd hyfryd ‘Chickens in a Pen’ gan Raine Geoghegan yn y seremoni i gofio’r holl Sipsiwn hynny a gollodd eu bywydau.