Neidio i'r prif gynnwy

Cofio Babanod a Garwyd ac a Gollwyd

31 Mai 2022

Cynhelir Gwasanaeth Babanod a Garwyd ac a Gollwyd blynyddol Hywel Dda ddydd Sadwrn 25 Mehefin 2022 yng Nghaerfyrddin.

Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei drefnu gan staff y bwrdd iechyd a’i arwain gan yr Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth), wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers tro ac yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio a dod at ei gilydd i dalu parch, cynnu cannwyll ac ysgrifennu neges mewn man diogel.

Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei gynnal fel arfer ar y dydd Sadwrn cyn y Pasg, wedi'i aildrefnu i'w gynnal ym Mharc Caerfyrddin, SA31 3DF am hanner dydd ddydd Sadwrn 25 Mehefin.

Mae mynedfa i’r parc o Deras Picton a Heol Morfa Caerfyrddin ac mae trefniadau wedi’u gwneud ar gyfer cyfleusterau parcio am ddim yn Eglwys Bethel, Teras Picton, Caerfyrddin, SA31 3BT sydd y tu ôl i Adeiladau Llywodraeth Cymru yn Teras Picton.

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan: “Mae galar ar ôl colli babi yn sylweddol a deimladwy ac mae’r torcalon yn dwysau wrth i obeithion a breuddwydion gael eu chwalu.

“Mae’r gwasanaeth yn agored i bawb ac mae’n gyfle i unrhyw un sydd wedi colli babi oedi, myfyrio a chofio, ymhlith eraill sydd wedi profi colled eu hunain a sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain yn eu galar.

“Nid dim ond ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli babanod yn ddiweddar, ac yn ardal y bwrdd iechyd hwn yw’r gwasanaeth. Y pwyslais drwyddi draw yw uno, trysori babanod sydd wedi marw a rhannu yn y broses iachau. O fewn y gwasanaeth bydd cerddoriaeth, darlleniadau a cherddi, amser myfyrio a gweddïau. Mae man i gynnu cannwyll ac i gynnig neges ar gael. I rai mae'n wasanaeth crefyddol, i eraill mae'n wasanaeth ysbrydol ac i eraill, mae'n fyfyriol - mater iddyn nhw yw sut mae pobl yn cymryd rhan.

“Rydym yn cydnabod bod gohirio'r seremoni yn peri gofid ac na chymerwyd y penderfyniad yn ysgafn. Mae presenoldeb yn y gorffennol a’r sylwadau bositif yn ailadrodd bod y seremoni yn helpu rhieni, teuluoedd a staff i gydnabod y teimlad dwys o golled.

“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth a charedigrwydd Cyngor Tref Caerfyrddin a’r Gweinidog Tim a swyddogion Eglwys Bethel.”

Bydd staff ar gael ar y diwrnod i’ch cyfeirio o faes parcio Bethel a’r mynedfeydd. Os ydym yn gwybod y bydd y tywydd yn arw, bydd Capel Bethel ar gael. Bydd gwybodaeth yn cael ei lanlwytho i wefannau a chyfryngau cymdeithasol y bwrdd iechyd ar ddydd Gwener 24 Mehefin.

Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwasanaeth ac yn dymuno coffau eich anwylyd anfonwch neges at Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Euryl Howells dros y ffôn neu drwy e-bost ar (01267) 227563 neu Euryl.Howells2@wales.nhs.uk