Neidio i'r prif gynnwy

Clinig Diagnosis Cyflym newydd ar agor yn Ysbyty'r Tywysog Philip

06/10/2021

Gellid cyfeirio pobl sy'n ymweld â'u meddyg teulu â symptomau amhenodol ond sy'n peri pryder i glinig newydd sy'n ceisio canfod y rhai a allai fod â chanser.

Bydd Clinig Diagnosis Cyflym (RDC) yn cael ei lansio ar Hydref 6ed yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, lle bydd cleifion ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Ceredigion i'w gweld yn y clinig hwn.

Y cynllun yw datblygu RDCs pellach mewn safleoedd ar draws y bwrdd iechyd.

Gwelir cleifion sy'n mynychu'r RDC gan Feddyg ac yn cael ymchwiliadau pellach i'w symptomau. Bydd cleifion yn gadael y clinig naill ai gyda chanlyniadau a diagnosis tebygol, cynllun ar gyfer ymchwiliadau pellach neu sicrwydd os yw'r canlyniadau'n normal.

Dywedodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'r RDC yn rhoi cyfle i adolygu ac ymchwilio ar unwaith i'r cleifion hynny y gall fod yn heriol gwneud diagnosis ynddynt. Yn ogystal, bydd yn tawelu meddwl cleifion yn gyflym pe na bai eu canlyniadau'n dangos unrhyw dystiolaeth o ganser. "

Bydd meddygon teulu yn trefnu i'r cleifion gael profion gwaed cyn iddynt fynychu'r clinig. Bydd staff yr RDC yn cysylltu â chleifion dros y ffôn ac yn cael cymorth wrth baratoi ar gyfer y clinig.

Dywedodd Gina Beard, Nyrs Ganser Arweiniol yn BIP Hywel Dda: “Mae'r RDC yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn hanfodol i wella canlyniadau canser. Yn flaenorol, pan fydd symptomau wedi bod yn amwys, efallai y bydd cleifion wedi profi atgyfeiriad i sawl gwasanaeth gwahanol cyn derbyn diagnosis.

“Bydd yr RDC yn mynd i’r afael â hyn, gan ddarparu profiad diagnostig effeithlon sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gleifion a fydd yn cael eu cefnogi drwy’r llwybr hwn gan Nyrs Arbenigol Clinigol.”

Nod tîm yr RDC yw gweld cleifion o fewn wythnos i gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu.

Dywedodd Cadeirydd HHel Dda UHB, Maria Battle: “Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn hynod o heriol ac wedi achosi llawer o broblemau wrth ganfod cam cynnar o canser mewn cleifion. Mae wedi achosi ôl-groniad mewn cleifion sy’n aros i gael mynediad at ofal ganser ac mewn amgylchiadau eithafol mae wedi golygu canfod cam hwyr o canser mewn rhai.”

“Yng ngoleuni hyn, bydd y Clinig Diagnosis Cyflym yn torri trwodd wrth helpu cleifion â symptomau amhenodol i gael y sylw a’r gofal sydd eu hangen arnynt yn brydlon ac yn effeithlon. Wrth inni symud ymlaen o’r caledi y mae’r pandemig wedi creu i gyd, bydd yn gwella gofal cleifion a chadw bywyd yn y grŵp cleifion hwn yn fawr.”