9 Tachwedd 2026
Gwahoddir pobl sy'n byw gyda diabetes, neu sydd mewn perygl o'i ddatblygu, ynghyd â'u teulu a'u ffrindiau, i gymryd rhan mewn digwyddiad parkrun arbennig yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn 14 Tachwedd i nodi Diwrnod Diabetes y Byd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Diabetes UK yn gweithio mewn partneriaeth â threfnwyr y parkrun wythnosol ym Mharc Dewi Sant i annog pobl i gwblhau'r cwrs 5km ar eu cyflymder eu hunain.
Bydd y rhai sy'n dod hefyd yn gallu cael amrywiaeth o wybodaeth a chefnogaeth ynglŷn â diabetes, gan gynnwys dysgu mwy am bwysigrwydd gweithredu'n gynnar.
Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Thema Diwrnod Diabetes y Byd eleni yw ‘Gweithredu'n gynnar ar ddiabetes’, ac mae cymryd rhan mewn gweithgaredd fel parkrun yn un ffordd y gall pobl helpu i leihau'r risg o ddatblygu cyflyrau fel diabetes math 2, a'r effeithiau dilynol y gall hynny eu cael ar eu hiechyd.
“Mae hefyd yn hanfodol adnabod arwyddion diabetes math 1 cyn gynted â phosibl, gan y gall hyn helpu i atal cymhlethdodau sy'n peryglu bywyd, fel cetoasidosis diabetig (DKA).
“Mae digwyddiadau cymunedol fel parkruns yn hygyrch i bobl o bob gallu, ac maent yn cefnogi lles meddyliol yn ogystal ag iechyd corfforol. Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i greu cysylltiadau â phobl yn eu cymuned.
“Bydd staff y bwrdd iechyd ar gael i gynnig amrywiaeth o wybodaeth a chyngor, ochr yn ochr â'n cydweithwyr o Diabetes UK Cymru, gan helpu i godi ymwybyddiaeth am ddiabetes a'r gefnogaeth sydd ar gael.
“Does dim pwysau i redeg, felly gall pobl gymryd eu hamser; hyd yn oed os mai dyma fydd eu cam cyntaf tuag at iechyd gwell, bydd yn gyfle gwych i ddechrau'r daith honno.”
Mae diabetes yn gyflwr difrifol lle mae lefel y glwcos (siwgr) yn y gwaed yn rhy uchel. Gall hyn ddigwydd pan nad yw'r corff yn cynhyrchu digon o inswlin, neu pan nad yw'r inswlin y mae'n ei gynhyrchu yn gweithio'n effeithiol.
Mae dau brif fath o ddiabetes: math 1 a math 2. Ni all pobl â diabetes math 1 gynhyrchu inswlin, tra bod pobl â diabetes math 2 naill ai ddim yn cynhyrchu digon o inswlin, neu'n methu â'i ddefnyddio'n iawn. Mae mathau eraill o ddiabetes hefyd, gan gynnwys diabetes yn ystod beichiogrwydd.
Mae symptomau cyffredin diabetes yn cynnwys yr angen i fynd i'r toiled yn amlach, yn enwedig yn y nos; teimlo syched mawr; teimlo'n fwy blinedig nag arfer; colli pwysau heb geisio; profi cosi yn yr ardal organau cenhedlu neu lindag, clwyfau neu doriadau sy'n cymryd amser hir i wella; a golwg aneglur. Gall y symptomau amrywio, ond mae'n bwysig peidio â'u hanwybyddu.
Anogir unrhyw un sy'n profi symptomau diabetes i gysylltu â'u meddyg teulu a gofyn am brawf gwaed.
Mae angen i unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan yn digwyddiad parkrun yng Nghaerfyrddin gofrestru a dod â'u cod bar personol gyda nhw ar y diwrnod. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan parkrun Parc Dewi Sant (yn agor mewn dolen newydd).
Am y tro cyntaf erioed, mae saith bwrdd iechyd Cymru yn ymuno â Diabetes UK a parkrun i nodi Diwrnod Diabetes y Byd, gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal mewn saith lleoliad parkrun ledled y wlad.
Os na allwch fynychu'r digwyddiad hwn, mae 11 digwyddiad parkrun i oedolion a 2 ddigwyddiad parkrun i bobl ifanc yn cael eu cynnal yn ardal Hywel Dda bob penwythnos. I ddod o hyd i'r parkrun agosaf atoch, ewch i wefan parkrun (yn agor mewn dolen newydd).
I gael rhagor o wybodaeth am ddiabetes, symptomau a thriniaeth, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn dolen newydd).
I gael gwybodaeth a chefnogaeth i'ch helpu i ddod yn iach ac aros yn iach, ewch i'n tudalen Aros yn Iach (yn agor mewn dolen newydd).