Neidio i'r prif gynnwy

Cau wardiau yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli

13 Ionawr 2026

Mewn ymateb i achosion o norofeirws, o heddiw, 13 Ionawr 2026, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cau wardiau dros dro yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli ac yn gofyn i ymwelwyr beidio â mynychu'r safle tan hysbysiad pellach.

Mae'r penderfyniad i gau'r wardiau dros dro i bawb heblaw ymwelwyr hanfodol wedi'i wneud oherwydd achosion o norofeirws sy'n cylchredeg yn Ysbyty Tywysog Philip ac yn y gymuned. Mae norofeirws yn feirws heintus iawn sy'n achosi chwydu a dolur rhydd.

Er bod pedair ward ar gau ar hyn o bryd, mae'r cyfyngiadau'n berthnasol i'r ysbyty cyfan.

Caniateir rhai ymweliadau hanfodol mewn amgylchiadau eithriadol. Gofynnir i ymwelwyr gysylltu â'r wardiau neu switsfwrdd yr ysbyty am ragor o arweiniad.

Bydd y cyfyngiadau ar waith tan hysbysiad pellach, a bydd y sefyllfa'n cael ei monitro'n rheolaidd.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd, a Phrofiad Cleifion yn BIP Hywel Dda:

“Rydym wedi penderfynu cyfyngu ar bob ymweliad ag Ysbyty Tywysog Philip heblaw am ymweliadau hanfodol er mwyn cadw cleifion a staff yn ddiogel ac i atal lledaeniad norofeirws, sydd ar hyn o bryd yn cylchredeg yn ein cymuned leol.

“Rwy’n gwybod y bydd hyn yn anodd i’r rhai sydd ag anwyliaid yn yr ysbyty a byddwn yn ailagor y wardiau cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Cadwch lygad ar ein gwefan neu’n cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau pellach.”

Mae pob safle ysbyty arall yn Hywel Dda yn gweithredu fel arfer, ond gofynnir i ymwelwyr beidio ag ymweld â ffrindiau a pherthnasau os oes ganddynt symptomau ffliw, salwch neu ddolur rhydd ac i wisgo gorchudd wyneb wrth fynychu pob safle clinigol.

Meddai Sharon Daniel:

“Hoffwn atgoffa ymwelwyr mai dim ond os ydych chi’n teimlo’n dda y dylech ddod i’n safleoedd. Mae hyn yn ein helpu i gyfyngu ar ledaeniad firysau ac amddiffyn ein cleifion mwyaf agored i niwed. Mae hefyd yn ein helpu i gadw staff yn iach, fel y gallant ofalu am y rhai sydd fwyaf angen ein gofal.

Helpwch ni i'ch helpu chi

Meddai Sharon: “Mae sawl ffordd y gall pobl gefnogi ein GIG yn ystod y cyfnod hwn. Dilynwch y canllawiau gwisgo mwgwd. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi'ch dwylo'n rheolaidd gyda sebon a dŵr cynnes.

“Mae'r cau hwn oherwydd norovfeirws ond ffordd effeithiol o gadw ein hunain a'n hanwyliaid yn ddiogel ac yn iach y gaeaf hwn yw cael brechiad ffliw. Mae rhagor o wybodaeth am ble gallwch gael eich brechlyn, gan gynnwys pigiadau atgyfnerthu RSV a COVID-19 os ydych chi'n gymwys, ar ein gwefan.

“Diolch i'n cymunedau, ein cleifion, a'n staff am eich holl gefnogaeth wrth ofalu am ein gilydd.”

I gael rhagor o wybodaeth am ble i gael brechlyn yn eich cymuned, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd yn: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/imiwneiddio-a-brechu/brechu-ffliw-tymhorol/

neu, ffoniwch 0300 303 8322 a dewiswch opsiwn 1 neu anfonwch e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk.