Neidio i'r prif gynnwy

Brechu ffliw tymhorol

Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn ac mae cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn yn un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag mynd yn sâl iawn.

Mae'n cael ei achosi gan firws sy'n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Gall symptomau ffliw fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia, a all fod angen triniaeth yn yr ysbyty.

Bydd ein canolfannau brechu yn parhau i fod ar agor trwy gydol mis Chwefror i bobl gymwys 18 oed a hŷn ar gyfer y brechlyn ffliw a 12 oed a hŷn ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu COVID-19.

Gall pobl sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw sy'n 18 oed neu'n hŷn alw heibio i ganolfan frechu, nid oes angen apwyntiad. Gofynnir i unrhyw un o dan 18 oed sydd angen brechlyn ffliw gysylltu â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu anfon e-bost ask.hdd@wales.nhs.uk i drefnu eu brechlyn.

Gall pobl sy'n gymwys i gael brechlyn COVID-19 sy'n 12 oed neu'n hŷn alw heibio, nid oes angen apwyntiad, ond os oes angen i chi drefnu brechlyn COVID-19 i rywun dan 12 oed, cysylltwch â'r bwrdd iechyd ar y manylion uchod.

Amseroedd agor galw heibio'r ganolfan frechu:

  • Cwm Cou  (Ysgol Trewen, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE) – 9.30am i 6.45pm, dydd Llun a dydd Mercher.
  • Llanelli  (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW) – 9.30am i 6.45pm, dydd Iau a dydd Gwener.
  • Neyland  (Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, SA73 1SE) – 9.30am i 6.45pm, dydd Mawrth a dydd Mercher.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn neu os ydych yn gymwys, mae croeso i chi gysylltu â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i'ch cynghori.
 

Plant 2 a 3 oed (ar 31 Awst 2023)

Mae'r brechlyn ffliw chwistrell trwynol i blant yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn cael ei roi i filoedd o blant bob blwyddyn i helpu i'w hamddiffyn rhag y ffliw.

Anogir rhieni yn gryf i sicrhau bod eu plentyn yn cael ei frechlyn ffliw chwistrell trwynol blynyddol i helpu i leihau eu risg o gymhlethdodau fel broncitis a niwmonia pe baent yn dal y firws y gaeaf hwn.
 

Yn 65 oed neu'n hŷn

Mae brechiad y ffliw yn un o’r ffyrdd gorau o ddiogelu rhag dal a lledaenu’r ffliw. Mae’r diogelu yn dechrau tua phythefnos ar ôl cael y brechiad.

Mae feirysau’r ffliw yn newid yn gyson. Bob blwyddyn mae brechiadau’r ffliw yn cael eu newid i gyd-fynd â’r feirysau ffliw sy’n debygol o fod yn cylchredeg.

Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechiad yn gwbl effeithiol. Efallai y byddwch chi'n dal i gael y ffliw, ond mae'ch symptomau chi'n debygol o fod yn ysgafnach. Nid yw brechiadau’r ffliw yn diogelu rhag annwyd, feirysau anadlol eraill, neu salwch gaeaf arall.
 

Staff y GIG

Os ydych chi'n dod i gysylltiad â chleifion yn rheolaidd, rydych chi'n gymwys i gael y brechlyn ffliw tymhorol a'r brechlyn COVID-19 yr hydref. Rydym yn argymell yn gryf bod staff cymwys yn cael eu brechlynnau cyn gynted â phosibl.

Bydd brechiadau ffliw i staff ar gael mewn sawl ffordd i helpu i’w wneud mor hygyrch â phosibl.

  • Brechwyr cymheiriaid: Mae gennym dros 100 yn fwy o frechwyr cymheiriaid o gymharu â’r llynedd sydd wedi’u hyfforddi i roi’r brechlyn ffliw i gydweithwyr. Gofynnwch i'ch rheolwr ward neu adran pwy yw eich brechwr cymheiriaid lleol.

Ydych chi wedi cael eich brechlyn ffliw neu COVID-19 gan eich meddyg teulu?
Os ydych yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac wedi cael eich brechlyn ffliw a/neu COVID-19 yn eich practis meddyg teulu neu fferyllfa gymunedol, sicrhewch eich bod yn hysbysu iechyd galwedigaethol cyn gynted â phosibl fel y gellir diweddaru eich cofnod staff yn unol â hynny. Gallwch wneud hynny trwy lenwi'r ffurflen hon (yn agor mewn dolen newydd).

Pobl â chyflwr iechyd hirdymor, salwch meddwl difrifol neu anabledd dysgu sy’n eu rhoi mewn perygl (rhwng 6 mis a 64 oed)

Rydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw tymhorol os ydych rhwng chwe mis a 64 oed a bod gennych gyflwr iechyd hirdymor, salwch meddwl difrifol neu anabledd dysgu sy’n eich rhoi mewn mwy o berygl o’r ffliw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Diabetes
  • Problem gyda’r galon
  • Cwyn gyda’r frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac asthma sydd angen mewnanadlydd steroid neu dabledi rheolaidd
  • Clefyd yr arennau (o gam 3)
  • Imiwnedd is oherwydd afiechyd neu driniaeth (a hefyd cysylltiadau agos â phobl yn y grŵp hwn)
  • Clefyd yr iau / afu
  • Wedi cael strôc neu strôc fechan
  • Cyflwr niwrolegol fel clefyd Parkinson, neu glefyd motor niwron
  • Dueg ar goll neu broblem gyda’r ddueg
  • Anabledd dysgu
  • Salwch meddwl difrifol
  • Gordewdra difrifol (gordewdra dosbarth III). Diffinnir hyn fel y rhai â Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu uwch, 16 oed neu hŷn.
  • Epilepsi
Menywod beichiog

Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal clefyd neu wneud salwch yn llai difrifol i chi a'ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff rydych yn eu datblygu'n cael eu trosglwyddo i'ch babi heb ei eni, gan helpu i'w amddiffyn yn ystod ei wythnosau cyntaf o fywyd. 
Gallwch gael y brechlyn ffliw ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Mae'r brechlyn ffliw yn cael ei argymell bob tro rydych yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn yn y gorffennol.  Mae cael eich brechu bob tymor ffliw yn eich amddiffyn yn erbyn mathau newydd o'r feirws ac yn lleihau'r risg o ledaenu ffliw i'ch babi.

Mae mwy o wybodaeth am y ffliw a brechiadau eraill a gynigir yn ystod beichiogrwydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn dolen newydd).
 

Gofalwyr o 16 oed

Os mai chi yw prif ofalwr person oedrannus neu anabl a allai fod mewn perygl petaech yn mynd yn sâl, dylid cynnig brechlyn ffliw tymhorol am ddim i chi.

Dylid cynnig un i chi hefyd os ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr. Os teimlwch fod hyn yn berthnasol i chi, gofynnwch am un gan eich meddygfa neu fferyllfa gymunedol sy'n cymryd rhan (yn agor mewn dolen newydd).

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael pigiad ffliw am ddim os ydych yn 65+ oed, yn feichiog neu â chyflwr iechyd penodol.


Gweithwyr cartrefi gofal a gofal cymdeithasol

Mae brechiad ffliw ar gyfer staff cartrefi gofal a gofal cymdeithasol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl sy’n agored i niwed yn glinigol, yn ogystal â gofalwyr, yn cael ei annog yn gryf.

Dylai eich cyflogwr ddarparu mynediad i’r brechlyn ffliw i chi, fodd bynnag efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim o dan gynllun cyflenwol y GIG os nad yw’ch cyflogwr yn darparu cynllun brechu rhag y ffliw.

Gall eich cyflogwr eich cefnogi i sicrhau eich bod yn cael brechiad ffliw. Gallant wneud hyn drwy drefnu i chi gael eich brechu yn eich gweithle neu drwy drefnu i chi gael eich brechu oddi ar y safle. Dylai eich cyflogwr roi gwybod i chi pa gynllun y mae'n ei redeg, neu, lle bo'n berthnasol, eich cynghori i ddefnyddio cynllun cyflenwol y GIG. Os na, gofynnwch iddynt.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: