22 Mai 2026
Mewn ymateb i achosion o norofeirws, o heddiw, 22 Mai 2026, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cau wardiau dros dro yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli, Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ac yn gofyn i ymwelwyr beidio â mynychu'r safleoedd os nad ydynt yn iach.
Mae'r penderfyniad i gau'r wardiau dros dro i bawb heblaw ymwelwyr hanfodol wedi'i wneud oherwydd achosion o norofeirws sy'n cylchredeg yn ein hysbytai ac yn y gymuned.
Caniateir rhai ymweliadau hanfodol mewn amgylchiadau eithriadol. Gofynnir i ymwelwyr gysylltu â'r wardiau neu switsfwrdd yr ysbyty am ragor o arweiniad.
Bydd y cyfyngiadau ar waith tan hysbysiad pellach, a bydd y sefyllfa'n cael ei monitro'n rheolaidd.
Mae norofeirws yn feirws heintus iawn sy'n achosi chwydu a dolur rhydd ond gellir trin norofeirws gartref gyda hydradiad a gorffwys. Os oes gennych symptomau norofeirws, arhoswch adref am 48 awr ar ôl iddynt glirio.
Dilynwch y camau syml hyn i osgoi lledaenu'r haint:
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch i GIG 111 Cymru - Gwyddoniadur : Norofirws (agor mewn ffenest newydd)
Beth yw symptomau norofeirws?
Y prif symptomau yw chwydu a dolur rhydd. Mae symptomau eraill yn cynnwys:
Sut i osgoi dal Norofeirws
Ie:
Na:
Am gyngor a gwybodaeth bellach ewch i Cyngor ar Reoli Heintiau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn ffenest newydd)