Neidio i'r prif gynnwy

Cau Cefnffordd yr A40 Dros Dro

14 Mehefin 2023

Bydd Cefnffordd yr A40 yng Nghoed Ffynnon, a leolir i’r gorllewin o Landdewi Felffre ar gau rhwng 8pm ddydd Gwener 16 Mehefin 2023 a 5am ddydd Llun 19 Mehefin 2023 er mwyn hwyluso’r cysylltiad rhwng yr A40 bresennol a’r A40 newydd yn y man clymu fel rhan o’r Cynllun Gwelliannau A40 Llanddewi Felffre i Groesfordd Maencoch.

I aelodau’r cyhoedd a allai fod angen mynediad i Ysbyty Cyffredinol Glangwili dros y penwythnos, dilynwch yr arwyddion dargyfeirio a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith. Bydd personél rheoli traffig yn cael eu lleoli ar gylchfan Hendy-gwyn ar Daf a Phenblewin i gynorthwyo defnyddwyr y ffordd.

Mae'r gwasanaethau brys, GIG 111 Cymru a gwasanaethau Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau lleol yn ymwybodol o'r dargyfeiriadau sydd ar waith, a manylion y llwybr cerbydau brys penodedig.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Cynllun:

“Oherwydd y gwahaniaethau lefel sylweddol rhwng yr A40 bresennol a’r A40 newydd, bydd y Prif Contractwr angen cyfnod cau ar benwythnosau. Er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar gymunedau lleol, cymudwyr, a’r economi leol, mae’r cyfnod cau wedi’i drefnu ar gyfer penwythnos 16-19 Mehefin 2023, y tu allan i dymor gwyliau’r haf. Mae gwaith paratoi eisoes ar y gweill i leihau hyd y cyfnod cau.

Mae’r cau wedi’i drafod yn helaeth o fewn y grŵp cyswllt rheoli traffig, sy’n cynnwys yr awdurdodau statudol allweddol sy’n defnyddio’r A40. O ganlyniad, adnabuwyd bod angen i’r gwasanaethau brys gynnal llwybr trwodd, ac felly, bydd Lôn Henllan sydd wedi’i lleoli yn union i’r de o’r A40 hefyd ar gau ar wahân i breswylwyr rhestredig sy’n byw ar y lôn a cherbydau gwasanaethau brys."

Ychwanegodd y llefarydd:

“Er mwyn caniatáu ar gyfer gwasanaethau brys di-dor i Ogledd Sir Benfro, mae llwybr cerbydau brys pwrpasol wedi’i greu na fydd yn effeithio’n andwyol ar amseroedd ymateb o fewn y sir. Mae’r gwasanaethau brys, a chynrychiolwyr byrddau iechyd lleol wedi cael eu briffio’n llawn ac yn barod ar gyfer y cau. Bydd y llwybr dargyfeirio hwn ar gau i’r cyhoedd gyda rhwystrau ffordd ffisegol a chriw yn eu lle er mwyn caniatáu llwybr clir i’r gwasanaethau brys.”

Cynghorir gyrwyr i ddilyn arwyddion dargyfeirio. Bydd personél rheoli traffig yn cael eu lleoli ar gylchfannau Hendy-gwyn ar Daf a Phenblewin i gynorthwyo ac arwain defnyddwyr y ffyrdd. Bydd yn ofynnol i bob cerbyd nwyddau trwm ddilyn llwybr amgen Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, ar hyd yr A4076 a'r A477.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cau hwn ac am ragor o wybodaeth, ewch i Traffig Cymru: A40 Gwelliannau rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross | Traffig Cymru