Neidio i'r prif gynnwy

Canolfannau brechu cymunedol dros dro wedi'u sefydlu i helpu pobl i gael mynediad at eu brechlynnau gaeaf

26 Tachwedd 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn annog pob grŵp cymwys, yn enwedig plant dwy a thair oed a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor, i gael eu brechu'n brydlon wrth i firysau anadlol ledaenu mewn cymunedau ac ysbytai.

Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i blant ifanc, oedolion hŷn a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor fel asthma, diabetes, neu glefyd y galon. Mae'r cyflyrau hyn yn cynyddu'r siawns o gymhlethdodau, o ddal firysau ffliw. Y llynedd, derbyniwyd dros 4000 o bobl yng Nghymru i'r ysbyty gyda ffliw, gyda 4% o'r rhain angen gofal mewn Uned Gofal Dwys (ICU).

Gall pobl gymwys gysylltu â'u meddyg teulu i gael apwyntiad i gael eu brechlyn ffliw neu fynychu clinig brechlyn dros dro lleol, sy'n dechrau ddydd Llun 1 Rhagfyr.

Mae'r bwrdd iechyd yn anfon llythyrau apwyntiad yn gwahodd pobl i fynychu eu clinig brechlyn cymunedol (agor mewn dolen newydd) dros dro lleol. Gall pobl gymwys hefyd alw heibio i gael eu brechiadau ffliw a/neu COVID-19 yn eu clinig brechlyn cymunedol lleol, nid oes angen apwyntiad.

Mae'r grwpiau canlynol yn gymwys ar gyfer y brechlynnau hyn:

Brechlyn ffliw

  • Plant dwy a thair oed ar 31 Awst 2025*
  • Pob plentyn oedran ysgol o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11*
  • Oedolion 65 oed a throsodd erbyn 31 Mawrth 2026
  • Pobl chwe mis oed i 64 oed â chyflyrau iechyd hirdymor
  • Menywod beichiog, preswylwyr cartrefi gofal, gofalwyr, a'r rhai sy'n byw gydag unigolion ag imiwnedd gwan
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, ymatebwyr cyntaf, a gweithwyr dofednod sydd mewn perygl uchel

*Bydd y brechlyn ffliw chwistrell trwynol hefyd ar gael i blant 2 oed (ar 31 Awst 2025) i un ar bymtheg.

Brechlyn COVID-19:

Cynigir dos sengl i:

  • Oedolion 75 oed a throsodd (gan gynnwys y rhai sy'n troi'n 75 oed yn ystod y cyfnod brechu)
  • Preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Unigolion â systemau imiwnedd gwan

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y brechiadau hyn ewch i  Brechiadau'r gaeaf - Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd).

Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol. Efallai y byddwch chi'n dal i ddal y firws, ond mae'n debygol y bydd eich symptomau'n ysgafnach.

Mae brechlynnau ffliw a COVID-19 yn gyflym ac yn ddiogel iawn a gallent atal wythnosau o salwch difrifol y gaeaf hwn.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus yn BIP Hywel Dda: "Rydym yn gweld ffliw yn cylchredeg yn gynharach nag arfer yn ein cymunedau. Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd cael eich brechlyn ffliw cyn gynted â phosibl.

“Mae'r brechlyn yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn i gyd-fynd â'r mathau mwyaf cyffredin ac mae'n parhau i fod yn amddiffyniad gorau yn erbyn salwch difrifol. Er gwaethaf adroddiadau am straen newydd y gaeaf hwn, mae profion yn dangos bod y brechlyn presennol yn parhau i gynnig amddiffyniad cryf, gan leihau'r risg o gael eich derbyn i'r ysbyty hyd at 75% mewn plant a hyd at 40% mewn oedolion. Mae brechu blynyddol yn hanfodol i aros yn ddiogel.

Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan https://biphdd.gig.cymru/brechlynffliw (agor mewn dolen newydd) neu cysylltwch â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 opsiwn 1 neu ask.hdd@wales.nhs.uk.