Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn ac mae cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn yn un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag mynd yn sâl iawn.
Mae'n cael ei achosi gan firws sy'n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Gall symptomau ffliw fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia, a all fod angen triniaeth yn yr ysbyty.
Os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iach, rydych yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau o’r ffliw os byddwch yn ei ddal, ac fe’ch cynghorir i gael brechiad y ffliw os:
Mae'r grwpiau canlynol hefyd yn cael eu cynghori i gael brechiad y ffliw i'w hamddiffyn nhw a'r bobl o'u cwmpas:
Os ydych chi’n gymwys, galwch heibio un o’r canolfannau canlynol, neu os oes yn well gennych wneud apwyntiad, cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar y manylion uchod.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechlyn yr ysgyfaint drwy fynd i Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd).
Mae plant yn chwarae rhan allweddol o ran trosglwyddo'r ffliw, gan gynnwys i'r rhai a allai fod mewn mwy o berygl o gymhlethdodau'r ffliw fel babanod, menywod beichiog a'r henoed.
Os nad yw eich plentyn wedi derbyn ei frechlyn ffliw trwynol, mae hwn ar gael ym mhob un o'n clinigau galw heibio sydd ar ddod. Nid oes angen apwyntiad ond os byddai'n well gennych drefnu amser i fynychu, cysylltwch â 0300 303 8322 (opsiwn 1) neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk