Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Iechyd a Lles Cross Hands

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) ar hyn o bryd yn adolygu costau datblygu Canolfan Iechyd a Lles Cross Hands, cyn cyflwyno cynnig Achos Busnes Llawn (FBC) i Lywodraeth Cymru.

Rhagwelir y bydd y ganolfan yn darparu canolfan ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal, gan gynnwys gwasanaethau iechyd cymunedol, practisau meddygon teulu, gwasanaeth llyfrgell, canolfan blynyddoedd cynnar, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a grwpiau gwirfoddol a thrydydd sector. Mae'r prosiect yn ceisio cynnig ateb cynaliadwy ar gyfer parhau i ddarparu gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, a thrwy hynny gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol sy'n byw yn ardal Aman Gwendraeth a'r cyffiniau.

Mae'r bwrdd iechyd yn arwain y prosiect mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin a dwy feddygfa leol: Partneriaeth Penygroes ac Aman Tawe. Fe wnaeth Partneriaeth Aman Tawe dderbyn  Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS)  ar 1 Ebrill 2024.

Cymeradwywyd yr achos busnes amlinellol ar gyfer canolfan iechyd a lles Cross Hands gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023. Ers cyflwyno’r achos busnes amlinellol gwreiddiol, bu cynnydd yn y costau cyfalaf a ragwelwyd. Mae’r cynnydd yn y gost ar gyfer y datblygiad hwn o ganlyniad i faterion megis chwyddiant, costau adeiladu, newidiadau rheoliadol i fanylebau adeiladu yn ogystal â darparu mesurau datgarboneiddio ychwanegol.

Nid yw’r cynnydd cyffredinol mewn costau a welwyd yn yr Achos Busnes Llawn yn unigryw i gynllun Canolfan Iechyd a Lles Cross Hands, mae hwn yn fater sy’n effeithio ar gynlluniau niferus yn y sector gofal iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal adolygiad o gyfleoedd i roi gwerth pellach ar y cynllun, gan sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy yn yr ardal. Bydd y bwrdd iechyd yn parhau i ymgysylltu â’n cymunedau ynghylch y datblygiad hwn.