Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan brechu torfol gyrru drwodd newydd i agor yng Nghaerfyrddin

Bydd canolfan brechu torfol ychwanegol yn agor ar Faes Sioe’r Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin ddydd Llun 8 Mawrth 2021 i gefnogi cyflwyno rhaglen frechu COVID-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Yn ddiweddar, cadarnhaodd y bwrdd iechyd y bydd pobl yng ngrwpiau blaenoriaeth JCVI 7, 8 a 9 - hynny yw pawb rhwng 50 a 64 oed heb unrhyw gyflyrau iechyd sylfaenol - yn cael eu gwahodd i dderbyn eu brechlyn COVID-19 cyntaf mewn canolfan frechu dorfol fel a ganlyn :

  • Grŵp 7, pobl 60 - 64 mlwydd oed – dechrau 8 Mawrth
  • Grŵp 8, pobl 55 - 59 mlwydd oed - dechrau 22 Mawrth
  • Grŵp 9, pobl 50 - 54 mlwydd oed - dechrau 5 Ebrill

Ar hyn o bryd mae gan y bwrdd iechyd chwe canolfan brechu torfol wedi'u lleoli yn Aberystwyth, Aberteifi, Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod, Caerfyrddin a Llanelli.

Mae maes y sioe yn ychwanegol at y ganolfan brechu torfol yng Nghanolfan Gynadledda Halliwell ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant a bydd yn gweithredu fel gwasanaeth gyrru drwodd.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Bydd y ganolfan frechu gyrru drwodd ychwanegol hon yn helpu i gynyddu nifer y brechlynnau y gallwn eu darparu wrth i ni anelu tuag at darged carreg filltir 2 Llywodraeth Cymru; hynny yw cynnig dos brechlyn cyntaf i bawb yn grwpiau blaenoriaeth JCVI 5 i 9 erbyn 18fed Ebrill.

“Mae maes y sioe wedi’i sefydlu fel cyfleuster gyrru drwodd ar gyfer profi COVID ers cryn amser bellach ac mae’n lleoliad perffaith i addasu’n hawdd i ddarparu cyfleusterau brechu ychwanegol.

“Rydym yn gofyn i bobl ddefnyddio eu cludiant preifat eu hunain lle bynnag y bo modd i fynychu apwyntiad. Gellir derbyn lifftiau gan rywun yn eich cartref neu swigen gefnogol, ond nid gan unrhyw un arall oherwydd y risg o drosglwyddo'r feirws.

“Rydyn ni'n deall efallai na fydd hyn yn bosibl i bawb ac felly rydyn ni am sicrhau pobl bod cefnogaeth drafnidiaeth ar gael i unrhyw un a fydd yn wirioneddol yn ei chael hi'n anodd mynychu eu hapwyntiad brechu. Os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o deithio, cysylltwch â'r bwrdd iechyd gan ddefnyddio'r rhif ffôn 0300 ar eich llythyr apwyntiad. "

Bydd pobl yng ngrwpiau 7, 8 a 9 yn derbyn llythyr a bydd rhai hefyd yn derbyn neges destun gyda dyddiad ac amser apwyntiad. Cyrhaeddwch mor agos at amser eich apwyntiad. Bydd y llythyr yn cynnwys rhif ffôn i gysylltu â'r bwrdd iechyd pe bai angen i chi aildrefnu neu ganslo'ch apwyntiad ond gwnewch bob ymdrech i gadw at amser apwyntiad a ddyrannwyd.

Mae canolfan frechu torfol ychwanegol i gefnogi'r rhaglen frechu yn Sir Benfro wrthi'n cael ei chynllunio a bydd cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl.

I ddarganfod mwy am raglen brechu torfol Bwrdd Iechyd Hywel Dda ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/