Neidio i'r prif gynnwy

Camau nesaf ar gyfer Gwasanaethau Pediatrig

24 Tachwedd 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn yr adroddiad gwerthuso annibynnol terfynol yn dilyn diwedd ei ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar newidiadau posibl i wasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid (Pediatreg) yn Ysbytai Glangwili a Llwynhelyg.

Comisiynwyd ac ysgrifennwyd yr adroddiad gan Opinion Research Services (ORS), sydd wedi cynghori, coladu a rheoli’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn annibynnol.

Roedd yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng 26 Mai a 24 Awst 2023, yn gwahodd y cyhoedd, staff y bwrdd iechyd, sefydliadau partner, a’r gymuned ehangach i rannu eu barn ar sut y dylid darparu gwasanaethau pediatrig.

Yn dilyn y newidiadau dros dro i wasanaethau pediatrig a wnaed ers 2016, mae angen i’r bwrdd iechyd bellach ddod o hyd i ateb mwy hirdymor, a fydd ar waith hyd nes y bydd yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn cael ei ddatblygu.

Cyflwynwyd a gofynnwyd i ymatebwyr i’r ymgynghoriad ystyried tri opsiwn ar gyfer newidiadau i’r gwasanaethau presennol a ddarperir yn Ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Ar hyn o bryd, nid oes opsiwn a ffefrir o ran sut y bydd gwasanaethau pediatrig brys ac argyfwng yn cael eu darparu yn y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar gyfer pob un o’r tri opsiwn, mae’n bwysig nodi y bydd mynediad at ofal brys plant yn cael ei gadw yn adran achosion brys Ysbyty Glangwili, a bydd mân anafiadau plant yn parhau i gael eu trin yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Hefyd, mae systemau eisoes ar waith i sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc â chyflyrau critigol sy’n cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg yn cael y gofal gorau sydd ar gael ac yn y lle mwyaf priodol. Bydd hyn yn parhau fel rhan o’r gwasanaeth newydd.”

Fel rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol, gofynnwyd i nifer o grwpiau rhanddeiliaid byrddau iechyd gymryd rhan mewn proses a elwir yn ystyriaeth gydwybodol. Roedd hyn yn golygu eu bod yn darllen adroddiad ORS ochr yn ochr â'r holl dystiolaeth arall a gwybodaeth berthnasol a gasglwyd yn ystod y broses hyd yn hyn, gan ystyried yr opsiynau sydd ar gael, ac yna eu gwerthuso. Wrth wneud hynny, gofynnwyd iddynt a oedd unrhyw newidiadau pellach y dylai’r bwrdd iechyd eu hystyried, a oedd yr adroddiad wedi nodi’r holl faterion cydraddoldeb, ac unrhyw bwyntiau terfynol nad oedd wedi’u nodi eisoes. Mae'r broses hon yn parhau.

Bydd adroddiad terfynol ORS, ynghyd ag allbwn y broses ystyriaeth gydwybodol, a'r adroddiadau technegol a masnachol, yn cael eu hystyried mewn cyfarfod o'r Bwrdd ddydd Iau 30 Tachwedd 2023 am 9.30am. Yn ystod y cyfarfod hwn, gofynnir hefyd i aelodau Bwrdd y bwrdd iechyd ystyried yn gydwybodol ganfyddiadau allweddol adroddiad ORS ochr yn ochr â chanfyddiadau o ystyriaethau’r grwpiau rhanddeiliaid eu hunain. Bydd y Bwrdd wedyn yn penderfynu pa opsiwn i symud ymlaen ag ef.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i’r gymuned, staff, sefydliadau partner a phawb a roddodd o’u hamser i gwrdd â ni a rhannu eu barn yn ystod y broses ymgynghori hon. Mae’r Bwrdd yn edrych ymlaen at y camau nesaf yn y broses ymgynghori wrth iddo ystyried yr holl adborth a dderbyniwyd.”

Mae cyfarfod y bwrdd ar gael i’r cyhoedd ei weld, mae manylion sut i wneud hynny ar gael ar wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2023/ (agor mewn dolen newydd)  Mae papurau’r Bwrdd a fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod hefyd ar gael ar yr un ddolen.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, ewch i wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/gwasanaethau-plant-yn-y-dyfodol (agor mewn dolen newydd