Neidio i'r prif gynnwy

Cam-drin staff y GIG yn gwbl annerbyniol, dywed y bwrdd iechyd

Bonheddwr yn cerdded trwy ward yr ysbyty

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi condemnio ymddygiad yr aelodau hynny o'r cyhoedd sy'n cam-drin staff y GIG.

Mae'r bwrdd iechyd wedi datgelu y bu nifer o achosion o'i staff yn cael eu cam-drin wrth weithio yn y gymuned, neu ar wardiau mewn ysbytai.

Cafwyd achosion hefyd o ymarferwyr iechyd cymunedol yn cael eu herio a'u cam-drin am wisgo offer amddiffynnol personol (PPE) wrth fynd allan i weld cleifion, er ei fod yn ofyniad.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, cofnodwyd 61 digwyddiad o drais ac ymddygiad ymosodol tuag at staff ym mis Medi.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad cleifion, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gweld nifer fawr o staff yn adrodd digwyddiadau ohonynt yn profi camdriniaeth gan aelodau’r cyhoedd. Mae staff sy'n gweithio'n galed iawn i ddarparu gofal a thriniaeth yn teimlo'n fwyfwy trist oherwydd cam-drin geiriol, ac weithiau ymddygiad bygythiol a brawychus gan gleifion a pherthnasau, yn enwedig pan ofynnir iddynt adael adran tra bod eu perthynas yn cael ei hasesu.

“Er bod mwyafrif y cyhoedd yn trin staff y GIG â pharch, ac yn gwerthfawrogi'r gwaith anodd iawn maen nhw'n ei wneud mewn amgylchiadau heriol, yn anffodus mae yna nifer o bobl sy'n ymddwyn mewn ffordd sy'n achosi i staff deimlo mewn perygl. Ni fydd y bwrdd iechyd yn oedi cyn adrodd digwyddiadau o'r fath i'r heddlu.

“Mewn perthynas â COVID-19, er fy mod yn gwerthfawrogi bod rhwystredigaeth ac ofn mewn cymunedau, byddwn yn pwysleisio, os yw pobl yn gweld gweithiwr gofal iechyd yn y gymuned yn gwisgo PPE, nid yw o reidrwydd yn golygu eu bod yn delio ag achos COVID-19. Mae bellach yn arfer safonol gwisgo PPE i amddiffyn ein gilydd.”