Neidio i'r prif gynnwy

Cais i gau cangen Meddygfa Tycroes wedi'i dderbyn gan y bwrdd iechyd

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

6 Mai 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn cais gan Feddygfa Stryd Margaret, Rhydaman, i gau eu cangen o feddygfa, Tycroes.

Mae Tycroes wedi bod ar gau ers Chwefror 2020 oherwydd y pandemig COVID-19 ac roedd yr adeilad yn gwasanaethu fel ‘safle coch’ ar gyfer clwstwr Meddygon Teulu Aman Gwendraeth. Cyn y pandemig, defnyddiwyd y gangen ar gyfer ystod o wasanaethau meddygol cyffredinol.

Ers ei gau dros dro, mae cleifion Tycroes wedi defnyddio Meddygfa Stryd Marged, sydd tua dwy filltir i ffwrdd. Mae llwybr bws rheolaidd rhwng y ddwy Feddygfa.

Mae Meddygfa Stryd Marged, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Cyngor Iechyd Cymunedol yn gweithio gyda’i gilydd i ymgysylltu â chleifion y ddwy feddygfa i gael dealltwriaeth o sut y byddai cau yn effeithio ar gleifion. Mae cyfnod ymgysylltu yn cychwyn ddydd Llun 9 Mai ac yn para tan ddydd Gwener 24 Mehefin. Gall cleifion roi adborth drwy’r ffyrdd canlynol:

• Cwblhau ffurflen adborth mewn meddygfeydd a fferyllfeydd

• Ffonio 0300 303 8322, opsiwn 4

• E-bostio hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk

• Ysgrifennu at Tracey Huggins, Pennaeth Gwasanaethau GMS, Tîm Gofal Sylfaenol, Canolfan Adnoddau Cymunedol Felinfoel, Felin-foel, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 8BE

• Ar-lein trwy www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk (agor mewn dolen newydd) ac ap My Surgery

Petai Tycroes yn cau, mae'r manteision posibl i gleifion yn cynnwys mwy o apwyntiadau ar gael i'r holl gleifion ym Meddygfa Stryd Marged, gan na fyddai staff yn gweithio ar ddau safle, a gellid cynnig apwyntiadau cynharach a hwyrach o Stryd Marged.

Byddai cleifion yn dal i allu defnyddio Fferyllfa Tycroes a byddai'r Feddygfa yn parhau i anfon yr holl bresgripsiynau y gofynnwyd amdanynt i'r fferyllfa.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi ymrwymo i wrando ar ac ymgysylltu â phoblogaethau lleol ynghylch y cynnig i adleoli gwasanaethau Gofal Sylfaenol o Feddygfa Tycroes i Stryd Marged a byddem yn felly yn hoffi gwahodd cleifion i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r Feddygfa a’r Cyngor Iechyd Cymunedol drwy gydol y broses hon a byddwn yn hysbysu cleifion am ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu hwn.”

Dywedodd Is-Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda, Dr Barbara Wilson: “Mae gwasanaethau meddygon teulu mor bwysig i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Pan ddaw’r bwrdd iechyd i wneud ei benderfyniad am ddyfodol cangen Tycroes, mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn cael dweud eu dweud.

“P’un a yw pobl yn cefnogi’r cynnig hwn neu’n ei wrthwynebu, bydd y CIC yn sicrhau bod y safbwyntiau hynny’n cael eu clywed a’u deall gan y bwrdd iechyd.”

Atgoffir cleifion bod gwasanaethau hefyd ar gael trwy fferyllfeydd cymunedol lleol sy'n cynnig ystod o wasanaethau arbenigol. Darganfyddwch fwy yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/ (agor mewn dolen newydd)