Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd fferyllwyr a timau fferylliaeth eu cydnabod yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru

Ngwobrau Fferylliaeth Cymru

29 Medi 2022

Roedd yn noson o lwyddiant i sawl fferyllydd ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) gyda phedwar enillydd yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru 2022.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn y Vale Resort yn Ne Cymru ar 7 Medi, 2022 i ddathlu gweithwyr fferyllol proffesiynol gan gynnwys y rhai o fferyllfeydd ysbyty a chymunedol a thynnu sylw at eu prosiectau diwyd ac arloesol amrywiol.

Luso Kumwenda, Fferyllydd locwm o Lanelli enillodd Wobr Locwm y Flwyddyn. Mae'n cyflenwi ar gyfer fferyllfeydd o amgylch De Cymru. Mae hefyd yn fentor trwy raglen fentora'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol ac yn darparu adolygiad ar gyfer arholiadau'r cyngor fferyllol cyffredinol (GPhC) yn Focus Pre Reg Revision. Mae’n cydweithio â fferyllwyr o Dde Affrica drwy Academi Fferylliaeth De Affrica (SAAP) lle mae’n trefnu darlithoedd rhithwir ac yn croesawu fferyllwyr eraill sy’n ymweld â’r DU. Gyda'i wybodaeth eang a'i set sgiliau helaeth, mae wedi gallu cefnogi'r gymuned yn ogystal â'i gydweithwyr.

Nrpendra Sing o Fferyllfa Borth yng Ngheredigion enillodd y wobr Arloesiad wrth Ddarparu Gwasanaeth mewn Fferylliaeth Gymunedol (Annibynnol) am ddatblygu ap dosbarthu PharmDel sy'n symleiddio ac yn gwella diogelwch ar gyfer cyflenwi. Oherwydd lleoliad y fferyllfa ac angen y boblogaeth oedrannus yng nghymuned y Borth o ran dosbarthu meddyginiaeth, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19, roedd Nrependra yn awyddus i bontio’r bwlch a darparu rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio, gydag archebu, sganio a danfon meddyginiaeth wedi'i symleiddio mewn un clic. Yn ddyddiol, mae defnyddio’r ap wedi rhyddhau o leiaf awr a hanner o amser staff Fferyllfa Borth.

Enillodd Tîm Fferylliaeth Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin Wobr Tîm Fferylliaeth Ysbyty’r Flwyddyn am ethos tîm gwych a ffocws ar daith y claf wrth iddo symud rhwng sectorau dros ardal ddaearyddol eang. Gyda ffocws bob amser ar ddiogelwch a phrofiad cleifion, mae'r tîm wedi gweithio gyda'i gilydd yn gyson i wneud y gorau y gallant.

Enillodd Tîm Fferylliaeth Dinbych-y-pysgod Wobr Tîm Fferylliaeth y Flwyddyn Practisau Meddygon Teulu. Canolbwyntiodd tîm y practis meddyg teulu o ddau fferyllydd a dau dechnegydd fferyllol ar wella rheolaeth meddyginiaethau yn y feddygfa a chanolbwyntiodd ar y defnydd diogel o atalyddion pwmp proton. Mae’r prosiect wedi cael derbyniad da gan gleifion a’r canlyniad fu lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnydd hirdymor o’r cyffuriau hyn. Mae hyn wedi galluogi'r tîm i weithio'n rhagweithiol i sicrhau gwasanaeth sy'n canolbwyntio mwy ar y claf.

Dyfarnwyd y teitl Cydnabyddiaeth Arbennig 2022 i Jenny Pugh-Jones, am ei chyfraniadau helaeth i’r sector fel Cyfarwyddwr Clinigol Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hi'n arweinydd ac yn yrrwr newid ar lefel genedlaethol. Mae hi wedi bod yn eiriolwr cadarn dros gynyddu rôl glinigol a’r rol wynebu cleifion fferylliaeth gymunedol yn ogystal â rôl fferylliaeth mewn ac ar draws practisau meddygon teulu fel rhan o ddull aml-broffesiynol o ofalu am gleifion. Yn y sector ysbytai, mae hi a’i thîm bob amser yn gweithio ar hyrwyddo’r gwaith o ddarparu gwasanaethau clinigol o ansawdd uchel ar draws pob safle. Mae hi wedi codi proffil a pharch at fferylliaeth ar draws y bwrdd iechyd a thu hwnt.

Mae sylw arbennig yn mynd i Rhian Downs a'r Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol a oedd yn y Categori Rheoli Dibyniaeth Sylweddau yn y Gymuned. Fel rhagnodwr annibynnol, mae Rhian yn gweithio fel rhan o ddull y tîm amlddisgyblaethol o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau gan ddarparu therapi amnewidion opiadau (OST) i aelodau agored i niwed yn y gymuned.

Roedd Davies a'r tîm yn Well Pharmacy Llanelli hefyd yn y rownd derfynol, ar ôl cyrraedd y rhestr fer yn y Categori Datblygiad Iechyd Menywod. Cyrhaeddodd y tîm y rhestr fer am ofal rhagorol sy'n canolbwyntio ar y claf a bod yn eiriolwr dros iechyd menywod.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor, Jill Paterson: “Llongyfarchiadau i’r enillwyr yn ogystal â’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Rwy’n falch bod gwaith Fferyllwyr ar draws ein bwrdd iechyd yn cael ei sylwi a’i gydnabod yn genedlaethol.

Rwy’n hynod falch ohonynt, a’n holl weithwyr Fferylliaeth proffesiynol ar draws y bwrdd iechyd, am ansawdd uchel y gofal y maent yn parhau i’w ddarparu bob dydd i’r gymuned.”