Neidio i'r prif gynnwy

Cadw golwg ar eich llesiant trwy wasgu botwm

Beth am gadw golwg ar eich llesiant gyda'n ap Cysylltu â Llesiant newydd sy'n cefnogi llesiant unigolion ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Wedi'i ariannu gan Gronfeydd Trawsnewid Llywodraeth Cymru, mae'r ap Cysylltu â Llesiant y gallwch ei lawrlwytho ac sy'n hawdd i'w ddefnyddio yn offeryn cynllunio llesiant personol y gallwch ei ddefnyddio i'ch helpu i fesur eich llesiant eich hun.

Yr ap yw un o'r dulliau a ddefnyddir gan ystod o raglenni a ddarperir drwy'r gronfa Drawsnewid ar draws rhanbarth gorllewin Cymru i helpu unigolion a darparwyr i ddeall sut mae eu gwasanaethau'n effeithio ar lesiant unigolyn. 

Mae'n caniatáu i chi hunanasesu eich llesiant mewn chwe maes allweddol ac yn rhoi adborth ar sut y gallech wella yn y meysydd hyn. Mae hyn yn cynnwys Teimlo'n iawn, Defnyddio'r hyn sydd gennyf, Cael y cymorth cywir, Bod yn rhan o rywbeth, Gwneud pethau sy'n bwysig i mi a Gofalu amdanaf fy hun.

Pan fyddwch wedi cwblhau eich asesiad byddwch yn cael awgrymiadau defnyddiol ar sut i wella eich llesiant a gallwch osod nodau a chynlluniau gweithredu unigol i chi eich hun er mwyn gwella eich llesiant a chyrchu dolenni i amrywiol adnoddau a all eich helpu i gyflawni nodau llesiant.

Gallwch ailadrodd eich asesiad yn rheolaidd i gadw golwg ar eich llesiant dros amser. Gan fod ein llesiant yn newid mewn ymateb i wahanol ddigwyddiadau ac amgylchiadau, bydd ailasesu eich llesiant yn rheolaidd yn eich helpu i ganolbwyntio ar agweddau allweddol ar eich llesiant a allai ddioddef mewn ffyrdd gwahanol ar wahanol adegau.

Wrth siarad am yr ap, dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol, "Mae'r ap Cysylltu â Llesiant yn offeryn personol i'ch helpu i ddeall, olrhain a gwella eich llesiant cyffredinol. Mae'n cysylltu pobl â'r adnoddau, y ffynonellau gwybodaeth a'r grwpiau cymunedol priodol a all eu helpu i wella eu llesiant a’u helpu i ganolbwyntio ar feysydd penodol y maent yn credu bod angen cymorth ychwanegol arnynt i’w helpu i gyflawni eu nodau.

“Mae'n helpu unigolion i feithrin arferion gwell a fydd yn arwain at newid gwirioneddol a pharhaus. Mae'r ap hwn yn offeryn hynod werthfawr a fydd o fudd mawr i unigolion ledled de-orllewin Cymru a byddwn yn annog pobl i archwilio ei botensial o ran gwella eu llesiant cyffredinol ac i olrhain eu taith a'u cynnydd.”

Bydd partneriaid rhanbarthol yn parhau i gydweithio i ddiweddaru'r ap yn rheolaidd trwy gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cymorth sydd ar gael ym mhob ardal.

Mae'r ap Cysylltu â Llesiant yn rhan o raglen Gorllewin Cymru Iachach, a oruchwyliwyd gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol sy'n dwyn ynghyd Gynghorau Sir Caerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol Sirol ar gyfer y tair sir, y sector annibynnol a defnyddwyr a gofalwyr. Caiff y rhaglen Gorllewin Cymru Iachach ei hariannu trwy Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru.

Lawrlwythwch yr ap Cysylltu â Llesiant o Google Play neu o'r Apple App Store i helpu i wella eich llesiant heddiw.