Neidio i'r prif gynnwy

Bydd partneriaeth gydweithredol rhwng y Drindod Dewi Sant a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gymorth i sicrhau canolbarth a gorllewin Cymru iachach

14 Medi 2021

Cyhoeddwyd cyfleoedd ymchwil ac arloesi newydd i gefnogi sicrhau canolbarth a gorllewin Cymru iachach trwy bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Yn seiliedig ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth, mae’n darparu’r fframwaith sy’n amlinellu bwriadau strategol a chynlluniau cyflawni ar gyfer addysg, ymchwil ac arloesi i drawsnewid yr arlwy Iechyd, Gofal a Digidol ar draws y rhanbarth.  

Mae’r Drindod Dewi Sant a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eisoes yn gweithio ar y cyd ar nifer o fentrau a bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd yn cryfhau’r bartneriaeth honno i ddarparu cyfleoedd pellach ar gyfer cydweithio o ran datblygu’r gweithlu, ymchwil, menter ac arloesi, yn enwedig ar ôl COVID-19. 

Yn rhan o’r gweithgareddau gwelir y ddau sefydliad yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil cydweithredol ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i fasnacheiddio, yn enwedig o ran datblygu dyfeisiau a thechnolegau newydd. Yn ogystal bydd y cytundeb yn hwyluso darpariaeth newydd ar gyfer israddedigion a graddedigion, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer astudiaethau doethurol a rhaglen Meistr Proffesiynol Digidol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o drawsnewidwyr ac arweinwyr digidol.  Bydd cyfle hefyd i fyfyrwyr ymgymryd ag interniaethau a lleoliadau gwaith mewn cyd-destunau clinigol ac anghlinigol.

Hwylusir cyfle pwysig i gydweithio drwy Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI), menter ar y cyd rhwng y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru a Gofal Iechyd Digidol Cymru. Nod y fenter hon yw defnyddio technoleg arloesol i wella datblygiad y gweithlu digidol ac ymchwil perthnasol i’r sector mewn gofal ac iechyd, ynghyd â sefydliadau golau glas a thrydydd sector.

Yn ogystal bydd y Brifysgol yn arwain ar elfen sgiliau menter Pentre Awel, sy’n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, i ddarparu cyfleusterau cyhoeddus, academaidd, busnes ac iechyd ar un safle yn Llanelli i hybu cyflogaeth, addysg, darpariaeth hamdden, ymchwil a darpariaeth iechyd, ynghyd â sgiliau a hyfforddiant ym maes iechyd a gofal.

Wrth lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin, dywedodd yr Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn y Brifysgol: “Mae heddiw’n ymwneud ag ailddatgan ein hymrwymiad i weithio gyda’n gilydd er budd iechyd a llesiant ein rhanbarth drwy ddod â’n harbenigedd at ei gilydd i wneud gwahaniaethau pendant i fywydau unigolion yn ein cymunedau. Rydym yn datblygu arlwy cyffrous, nid yn unig o ran rhaglenni newydd a mentrau dysgu seiliedig ar waith ond hefyd o ran datblygu ymchwil a chynnyrch arloesol.”

Meddai Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi mwynhau partneriaeth ddofn ac arbennig gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ers tro byd.  Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn rhoi‘r cyfle i fynd â’n partneriaeth i’r lefel nesaf yng nghyd-destun cefnogi canolbarth a gorllewin Cymru iachach.  Pa un a fyddwn yn cydweithio i ddatblygu technolegau newydd ac arloesi neu alluogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer ein cymunedau, edrychwn ymlaen at yr hyn a ddaw yn sgil y cam nesaf hwn o’r bartneriaeth.”

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant: “Rwy’n croesawu’r cyfle i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gryfhau partneriaeth y brifysgol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd y bartneriaeth yn ein galluogi i ddatblygu cyfleoedd trawsnewidiol gyda’n gilydd i gefnogi iechyd a llesiant ein rhanbarth.  Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys datblygu arloesedd ac ymchwil trosi o’r radd flaenaf yn ogystal â sgiliau technolegol a digidol cymhwysol, fel y gallwn feithrin gallu, mynd i’r afael â diffygion mewn sgiliau, uwchsgilio ac ailsgilio’r gweithlu, yn enwedig ar ôl y pandemig.”