Neidio i'r prif gynnwy

Bydd canolfan frechu torfol Dinbych-y-pysgod ar gau dros dro oherwydd Penwythnos Cwrs Hir

27 Mehefin 2022

Bydd canolfan frechu torfol Dinbych-y-pysgod ar gau dros dro ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf oherwydd Penwythnos y Cwrs Hir.

Bydd y ganolfan frechu, a leolir yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod, SA70 8EJ, ar agor ddydd Gwener 1 Gorffennaf rhwng 10am a 7.30pm ar gyfer sesiynau galw heibio.

Mae lleoliadau eraill ar agor dros y penwythnos, gan gynnwys canolfan frechu torfol Hwlffordd yn Archifau Sir Benfro (SA61 2PE) sydd ar agor ar gyfer sesiynau galw heibio rhwng 10:00am a 3:00pm ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf a rhwng 10:00am – 7:30pm. Dydd Sul 3 Gorffennaf.

Bydd canolfan frechu torfol Dinbych-y-pysgod yn parhau i weithredu ei horiau agor rheolaidd o ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10:00am - 7.30pm y penwythnos canlynol. Diolch am eich dealltwriaeth.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein canolfannau brechu yma (agor mewn ddolen newydd).