Neidio i'r prif gynnwy

Bws gwennol am ddim o ganol tref Llanelli i ganolfan brechu torfol Dafen

Bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim o ganol tref Llanelli i'r ganolfan brechu torfol yn Nafen (agor mewn dolen newydd) yn cychwyn ddydd Llun 20 Rhagfyr i helpu pobl i dderbyn eu brechlyn COVID-19.

Bydd y bws gwennol, a ddarperir gan Dolen Teifi (agor mewn dolen newydd), yn rhedeg rhwng 10.30 y bore a 4.40 y prynhawn, saith niwrnod yr wythnos ar gyfer treial cychwynnol pedair wythnos. Sylwch na fydd gwasanaeth am 12 y prynhawn o'r dref nac am 12.15 y prynhawn o'r ganolfan brechu torfol i ganiatáu egwyl ginio i'r gyrwyr.

Gall pobl fynd ar y bws gwennol ar yr awr ac am hanner awr wedi'r awr yn Stryd yr Eglwys, y tu allan i Lys Ynadon Llanelli (SA15 3AW) (agor mewn dolen newydd). Bydd y bws gwennol yn gadael y ganolfan brechu torfol chwarter wedi’r awr a chwarter i'r awr, gan ddychwelyd i ganol y dref a gollwng teithwyr gyferbyn â llyfrgell Llanelli.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae angen cymaint o bobl â phosibl yn mynychu eu hapwyntiadau brechlyn COVID-19, neu alw heibio os ydyn nhw'n gymwys, felly fel bwrdd iechyd rydyn ni'n edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i helpu mwy o bobl i deithio i'n canolfannau.

“Yn Lanelli rydym wedi gallu sefydlu’r gwasanaeth hwn yn gyflym gyda diolch i Dolen Teifi i ddarparu bws uniongyrchol rhwng canol y dref a’r ganolfan frechu torfol yn Nafen.

“Os yw’r bws yn cael ei ddefnyddio’n dda, byddwn yn ceisio ymestyn y gwasanaeth ar ôl y treial cychwynnol pedair wythnos.

“Mae'r gwasanaeth bws gwennol hwn yn un o lawer o adnoddau a gwasanaethau ychwanegol sy'n cael eu sefydlu ar draws rhanbarth Hywel Dda i helpu i gefnogi mwy o bobl i dderbyn eu brechiad COVID-19."

Bydd mesurau diogelwch caeth COVID-19 ar waith i sicrhau diogelwch gyrwyr a theithwyr ar y gwasanaeth hwn:

  • Rhaid i bob teithiwr a gyrrwr wisgo gorchudd wyneb, oni bai ei fod wedi'i eithrio yn feddygol
  • Caniateir uchafswm o 14 o deithwyr ar bob taith
  • Bydd sgrin ar waith rhwng gyrrwr a theithwyr
  • Dim ond os ydyn nhw'n ffit ac yn iach ar y diwrnod y dylai teithwyr ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Mae galw heibio (nid oes angen apwyntiad) ar gael yng nghanolfan brechu torfol Dafen rhwng 11am a 8pm ar gyfer y canlynol:

  • Dosau cyntaf ar gfyer:
    • Unrhyw un sy’n 12 oed neu’n hŷn
  • Ail ddosau ar gyfer:
    • Unrhyw un 18 oed a hŷn os ydyw wedi bod o leiaf 8 wythnos ers eu dos cyntaf.
    • Y rhai 12 oed a throsodd os yw o leiaf 12 wythnos ers eu dos cyntaf.
  • Dosau atgyfnerthu ar gyfer:
    • Pawb 16 oed a throsodd
    • pobl 12 oed a throsodd sydd â system imiwnedd wan iawn sydd wedi cael trydydd dos cynradd (yn agor mewn tab newydd)
    • plant a phobl ifanc 12 i 15 oed sydd mewn mwy o berygl o gael coronafeirws oherwydd cyflyrau iechyd sylfaenol
    • plant a phobl ifanc 12 i 15 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan

Bydd y grwpiau sy'n gymwys i alw heibio am ddos atgyfnerthu yn cael eu hehangu cyn gynted â phosibl, cadwch lygad am gyhoeddiadau ar wefan BIP Hywel Dda, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu yn y cyfryngau lleol.

Cyn teithio heb apwyntiad i ganolfan brechu torfol Dafen, rydym yn cynghori gwirio gwefan y bwrdd iechyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/canolfannau-brechu-torfol/llanelli/