Os oes gennych system imiwnedd sydd wedi'i gwanhau'n ddifrifol oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol neu driniaeth feddygol efallai na fyddwch wedi ymateb yn dda i'ch dau ddos cyntaf o'r brechlyn COVID-19.
Byddwn yn cynnig trydydd dos sylfaenol o'r brechlyn i chi os ydych yn 12 oed a hŷn a oedd â gwrthimiwnedd difrifol ar adeg dos cyntaf neu'r ail ddos o frechu COVID-19.
Bydd y trydydd dos yn gwella eich lefelau imiwnedd i roi gwell amddiffyniad i chi. Efallai y bydd angen brechiad atgyfnerthu hefyd yn nes ymlaen.