Neidio i'r prif gynnwy

Bws Arloesi Anadlol Cymru yn darparu Gwasanaeth LUMEN ar draws Hywel Dda

Bws Arloesi Anadlol Cymru yn darparu Gwasanaeth LUMEN ar draws Hywel Dda

20 Ionawr 2023

Gall pobl sy’n pryderu am symptomau canser yr ysgyfaint nawr ddefnyddio Llinell Asesu Symptomau Canser yr Ysgyfaint (LUMEN) ym Mws Arloesi Anadlol Cymru (RIW) a fydd yn ymweld â threfi ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ym mis Ionawr a Chwefror.

Mae LUMEN yn wasanaeth llinell ffôn a ariennir gan Moondance Cancer Initiative, sy’n darparu pwynt mynediad i bobl siarad â nyrs arbenigol i drafod eu symptomau a chael eu hatgyfeirio i gael Pelydr-X o’r frest, os oes angen, i ymchwilio i’w symptomau.

Mae’r gwasanaeth yn agored i bobl sydd wedi cofrestru gyda meddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i fynd i’r afael â’u pryderon am symptomau posibl Canser yr Ysgyfaint a dysgu mwy am y Gwasanaeth LUMEN a sut y gall helpu.

Yng Nghymru, mae dros 2,300 o gleifion yn cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn, ond mae llai nag 20 y cant o’r rhain yn cael diagnosis yn gynnar. Dangoswyd bod diagnosis cynnar yn cynyddu'r siawns o oroesi.

Lansiwyd y gwasanaeth ar 15 Awst 2022, fel cynllun peilot yn ardal Sir Gaerfyrddin. Yn dilyn adborth ac effaith gadarnhaol gan gleifion, estynnwyd y gwasanaeth ar draws pob sir ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Rhagfyr 2022.

Mae LUMEN ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yn ardal BIP Hywel Dda, sy’n 40 oed neu’n hŷn, ac sydd ag unrhyw un o’r symptomau hyn:

• Peswch (mwy na 3 wythnos)
• Colli pwysau heb geisio
• Prinder anadl
• Llais cryg
• Heintiau mynych ar y frest
• Poen yn y frest
• Yn fwy blinedig nag arfer
• Colli archwaeth
• Cyflwr ar yr ysgyfaint gyda symptomau yn newid

Bydd y Bws RIW yn mynychu’r lleoliadau canlynol ar draws ein siroedd:

  • ASDA Doc Penfro - 24 Ionawr 2023
  • Leekes, Crosshands - 31 Ionawr 2023
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - 7 Chwefror 2023
  • Tesco, Cardigan - 21 Chwefror 2023
  • Parc Y Scarlets, Llanelli - 18 Ebrill 2023
  • Parc Y Scarlets, Llanelli - 25 Ebrill 2023
  • Maes parcio Morrisons, Hwlffordd - 2 Mai 2023

Wrth esbonio nodau’r prosiect, dywedodd Patricia Rees, Nyrs Brysbennu Canser yr Ysgyfaint ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae LUMEN yn rhoi mynediad uniongyrchol i bobl sy’n profi problemau anadlol at nyrs arbenigol sy’n gallu trafod eu symptomau, ac os yw’n briodol, eu cyfeirio am ymchwiliad pellach.

“Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod cyfradd goroesi canser yr ysgyfaint yn cael ei gwella trwy ganfod yn gynnar.”

Dywedodd Dr Savita Shanbhag, Arweinydd Canser Meddygon Teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn credu bod galluogi unigolion i ffonio llinell ffôn LUMEN yn ein helpu i ganfod symptomau’n gynnar ac atgyfeirio cleifion ymlaen i gael diagnosis cynnar. Rydym yn ddiolchgar i Moondance Cancer Initiative am ariannu’r prosiect arloesol hwn.”

Os ydych chi, aelod o'r teulu, neu ffrind yn 40 oed neu'n hŷn a bod gennych unrhyw un o'r symptomau uchod, gallwch gael mynediad at LUMEN drwy ffonio 0300 3036142 neu ymweld â Bws RIW. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 2pm.

I gael rhagor o wybodaeth am Fenter Canser Moondance ewch i'w tudalen we https://moondance-cancer.wales (agor yn dolen newydd)