28 Mai 2026
Yn dilyn ymgysylltu â chleifion, staff a'r gymuned leol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cytuno i archwilio a allai darparwr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol newydd neu bresennol ymgymryd â rhedeg Meddygfa'r Sarn ym Mhont-iets.
Yn ei gyfarfod heddiw (dydd Iau 28 Mai 2026), ystyriodd y Bwrdd adborth a gasglwyd yn ystod y cyfnod ymgysylltu diweddar, a chydnabod cryfder y teimlad am ddyfodol y feddygfa.
Clywodd aelodau'r bwrdd pa mor bwysig yw mynediad lleol at wasanaethau meddygon teulu i'r gymuned a wasanaethir gan Feddygfa'r Sarn ym Mhont-iets a chydnabu pryderon am effeithiau posib yn sgil cau. Yn ogystal, clywodd y Bwrdd fod rhagor o wybodaeth wedi dod i'r amlwg yn ystod y cyfnod ymgynghori, gan gynnwys mynegiadau anffurfiol o ddiddordeb mewn rhedeg y feddygfa.
O ganlyniad, mae'r Bwrdd wedi cytuno i archwilio a oes diddordeb cynaliadwy mewn ymgymryd â rhedeg y feddygfa trwy gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Tra bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo, bydd Meddygfa'r Sarn yn parhau i weithredu fel meddygfa a reolir, a dylai cleifion cofrestredig barhau i gyrchu gwasanaethau Meddyg Teulu fel y maent yn gwneud ar hyn o bryd.
Yn ystod y cyfnod ymgysylltu wyth wythnos, cafwyd nifer fach o fynegiadau anffurfiol o ddiddordeb gan ddarparwyr posib sydd â diddordeb mewn rhedeg y feddygfa. Er bod y sgyrsiau cynnar hyn yn galonogol, nododd y Bwrdd y byddai unrhyw drefniant ffurfiol yn gofyn am broses gaffael gadarn ac ystyriaeth ofalus o ddichonoldeb ariannol a gweithredol.
Bydd y Bwrdd Iechyd nawr yn archwilio'r cyfleoedd hyn ymhellach, a fydd yn cynnwys bwrw ymlaen â phroses gaffael agored a thryloyw yn unol â rheoliadau cenedlaethol y Gyfundrefn Dewis Darparwyr, os bydd y Bwrdd yn penderfynu bod hyn yn ffordd ymarferol ymlaen.
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym. Clywsom yn glir faint mae Meddygfa'r Sarn yn ei olygu i'r gymuned leol. Mae hynny wedi pwysleisio pa mor bwysig yw ein bod yn cymryd yr amser i archwilio'n llawn ddichonoldeb y diddordeb anffurfiol sydd wedi dod i’r amlwg ynghylch rhedeg y feddygfa yn y dyfodol.
"Mae hyn yn ein galluogi i ymateb yn uniongyrchol i'r adborth hwnnw ac ystyried a oes ateb cynaliadwy a allai alluogi gwasanaethau i barhau o'r feddygfa.
"Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu barn gyda ni gan helpu i ddwyn dylanwad ar sut rydyn ni’n ystyried hyn."
Bydd gwaith nawr yn parhau i asesu lefel y diddordeb masnachol a phenderfynu a ellir nodi ateb hirdymor ymarferol trwy broses gomisiynu ffurfiol. Bydd y Bwrdd Iechyd yn rhoi gwybod i gleifion, staff a rhanddeiliaid wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus y tîm ym Meddygfa'r Sarn, a gall cleifion cofrestredig barhau i gyrchu gwasanaethau Meddyg Teulu fel y maent yn gwneud ar hyn o bryd.