Bwrdd Iechyd yn penderfynu ar fodel gofal yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau strôc

26 Tachwedd 2026

Yn ei gyfarfod cyhoeddus ar y Bwrdd heddiw (26 Tachwedd 2026), penderfynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y model gofal yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau strôc ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, ac ar gyfer pobl mewn cymunedau cyfagos sy'n cael mynediad at wasanaethau'r Bwrdd Iechyd. 

Cytunodd y Bwrdd ar fodel newydd ar gyfer gwasanaethau strôc, fel y'i disgrifir yn yr opsiwn dewisol a ymgynghorwyd arno. Bydd uned strôc arbenigol yn cael ei datblygu yn Ysbyty Glangwili gan ddarparu cwmpas arbenigol 24 awr, saith diwrnod yr wythnos. Bydd uned adsefydlu strôc hefyd yn cael ei datblygu yn Ysbyty Bronglais, ochr yn ochr â gwasanaethau adsefydlu strôc a gwasanaethau cymunedol cryfach ar draws ardal y Bwrdd Iechyd.

Bydd cleifion yn parhau i gael asesiad cychwynnol a thriniaeth lle bo angen yn ysbytai Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg. Bydd cleifion sydd angen gofal strôc mewnol arbenigol yn cael eu trosglwyddo i Glangwili.

Ni fydd unrhyw newidiadau'n digwydd ar unwaith. Bydd y gweithredu'n cael ei gyflwyno'n raddol dros sawl blwyddyn, gan ystyried cynlluniau ar gyfer yr ysbyty newydd. Dim ond pan fydd y trefniadau clinigol, gweithlu a seilwaith angenrheidiol ar waith y bydd newidiadau'n cael eu cyflwyno. Bydd y rhain yn cynnwys model trafnidiaeth a throsglwyddo cleifion priodol.

Mae'r penderfyniad yn dilyn dau gam o ymgynghori cyhoeddus, a wahoddodd gleifion, gofalwyr, staff, rhanddeiliaid a chymunedau lleol i rannu eu barn a'u profiadau am wasanaethau strôc. Roedd ail gam yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng Mai a Gorffennaf 2026, ac a adeiladodd ar ymgynghoriad y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn 2025, yn canolbwyntio ar opsiwn a ffefrir ar gyfer gwasanaethau strôc yn y dyfodol. Cyfrannodd mwy na 3,000 o bobl adborth yn ystod yr ail gam hwn o'r ymgynghoriad.

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae ein Bwrdd wedi ystyried yn ofalus y ddau gam o ganfyddiadau'r ymgynghoriad ochr yn ochr â thystiolaeth glinigol, ystyriaethau ansawdd a diogelwch, cynaliadwyedd y gweithlu, ac asesiadau effaith cyn dod i'w benderfyniad heddiw.

"Rydym wedi gwrando ar ein cymuned a'r opsiwn a gefnogwyd oedd uno dau opsiwn a ddaeth allan o gam cyntaf yr ymgynghori ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol.

"Mae strôc yn ddigwyddiad dinistriol ac a allai newid bywyd. Drwy'r ymgynghoriad, clywsom gan lawer o bobl am yr effaith y mae strôc wedi'i chael ar eu bywydau, fel cleifion ac fel aelodau o'r teulu. 

"Rwy'n falch ein bod heddiw wedi cymryd y cam cyntaf tuag at wireddu model newydd a fydd yn gosod y sylfeini ar gyfer gwasanaeth a fydd yn bodloni safonau clinigol cenedlaethol ac yn darparu gofal strôc cynaliadwy i'n cymunedau. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n cleifion. 

"Rydym yn ddiolchgar i bawb a rannodd eu barn â ni yn ystod yr ymgynghoriad ac yn cydnabod yr adborth, yn enwedig ynghylch teithio a mynediad at wasanaethau mewn ardal wledig yn bennaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda staff, partneriaid a chymunedau lleol i ddeall a lleihau'r effeithiau hynny lle bynnag y bo modd. Byddwn yn diweddaru pobl wrth i gynlluniau ddatblygu ac cyn cyflwyno newidiadau."

Bydd y Bwrdd Iechyd nawr yn dechrau'r cam nesaf o gynllunio i weithredu penderfyniadau'r Bwrdd. 

Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol: "Er bod ein Bwrdd wedi dod i benderfyniad heddiw, ni fydd unrhyw newidiadau ar unwaith i wasanaethau strôc. Bydd cam nesaf y gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau gweithredu manwl. Rydym yn cydnabod na all newidiadau o'r maint hwn ddigwydd dros nos a bydd angen eu cynllunio'n ofalus a'u cyflwyno fesul cam dros amser.
 
"Dylai cleifion barhau i gael mynediad at eu gofal fel y maent yn ei wneud nawr. Os oes gennych chi, neu anwylyd, strôc a amheuir, mae'r ffordd y cewch eich asesu a'ch trin yn aros yr un fath. 

"Dylai unrhyw un sy'n profi symptomau strôc geisio cymorth ar unwaith drwy ffonio 999. Bydd cleifion yn parhau i gael eu cludo i'w hysbyty addas agosaf, lle byddant yn cael asesiad a thriniaeth frys. Gall hyn gynnwys sgan CT ac, os oes angen, triniaeth toddi clotiau, a elwir yn thrombolysis. Lle mae angen thrombectomi – triniaeth arbenigol ar gyfer tynnu clot gwaed – bydd cleifion yn parhau i gael eu trosglwyddo i ganolfannau arbenigol ym Mryste neu Gaerdydd. 

"Mae strôc yn argyfwng, ac rydym yn annog pobl i gofio prif symptomau strôc gyda'r gair NESA:

Nam ar yr wyneb – A yw'r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw'n gallu gwenu?
Estyn – Ydyn nhw'n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a'u cadw yno?
Siarad – Ydyn nhw'n cael trafferth siarad?
Amser – Mae ymateb yn amserol yn hollbwysig. Ffoniwch 999 os ydych chi'n gweld un o'r symptomau uchod.

Mae papurau'r Bwrdd a dolen i'r darllediad wedi'i recordio o'r cyfarfod ar gael ar dudalennau gwe y Bwrdd Iechyd, yma. (agor mewn dolen newydd)

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad gwasanaethau strôc, ewch i dudalennau gwe strôc y Bwrdd Iechyd, yma. (agor mewn dolen newydd)