Bwrdd Iechyd yn gofyn am farn ar argymhelliad arfaethedig ar gyfer Meddygfa'r Sarn

Adeilad brics coch un llawr gydag arwydd meddyg teulu ar y wal

2 Tachwedd 2026

Mae cleifion Meddygfa'r Sarn a Meddygfa Minafon, ynghyd â staff ac aelodau o'r gymuned ehangach, yn cael eu gwahodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i rannu eu barn ar drefniadau arfaethedig i’r dyfodol ar gyfer gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan Feddygfa'r Sarn.

Mae'r ail gam ymgysylltu yn dilyn argymhelliad blaenorol y dylid gwasgaru rhestr y feddygfa i feddygfeydd cyfagos. Roedd yr adborth a gafwyd yn tynnu sylw at y pwysigrwydd y mae’r gymuned yn ei roi ar gadw mynediad at wasanaethau meddyg teulu yn lleol ym Mhont-iets. 

O ganlyniad, mae’r Panel Meddygfeydd Gwag diweddar wedi argymell mai'r opsiwn mwyaf cynaliadwy ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau ym Mhont-iets yw i Feddygfa'r Sarn uno ei restr cleifion â Meddygfa Minafon, meddygfa a reolir gan y Bwrdd Iechyd yng Nghydweli.

O dan y cynnig, byddai Meddygfa'r Sarn ar agor bob diwrnod o'r wythnos rhwng 9am a 3pm, gyda gwasanaethau meddygon teulu a chlinigau nyrsio yn rhedeg bob dydd. Ar ôl 3pm, byddai unrhyw apwyntiadau brys na allant aros tan y diwrnod wedyn yn cael eu darparu yng Nghydweli. 

Byddai Meddygfa Minafon yn aros ar agor 8am – 6.30pm a byddai meddygfa gangen Trimsaran yn aros ar agor 9am – 4pm.

Nid oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud, ac mae'r Bwrdd Iechyd yn awyddus i glywed gan gleifion, staff, preswylwyr a rhanddeiliaid cymunedol cyn i'r bwrdd ystyried yr argymhelliad yn gynnar yn 2027.

Bydd y cyfnod ymgysylltu yn rhedeg o ddydd Llun 2 Tachwedd tan ddydd Sul 29 Tachwedd 2026. Anogir cleifion Meddygfa'r Sarn a Meddygfa Minafon, ynghyd â staff, preswylwyr, gofalwyr a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb, i rannu eu barn drwy un o’r dulliau canlynol:

Bydd y Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnal cyfleoedd ymgysylltu wyneb-yn-wyneb ac ar-lein, lle gall pobl ddysgu mwy am y cynnig, gofyn cwestiynau a rhannu eu barn.

  • Dyddiad: Dydd Gwener 20 Tachwedd 2026
  • Amser: 1.30pm i 6.30pm (galwch heibio ar unrhyw adeg)
  • Lleoliad: Neuadd Les Pont-iets, Heol y Meinciau, Pont-iets, SA15 5TR.

Bydd digwyddiad ar-lein hefyd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 24 Tachwedd 2026 am 6.30pm. E-bostiwch hyweldda.engagement@wales.nhs.uk i dderbyn dolen i'r digwyddiad ar-lein.

Meddai Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn ddiolchgar i bawb a rannodd eu barn yn ystod ein hymgysylltiad cynharach am ddyfodol Meddygfa'r Sarn. Clywsom yn glir pa mor bwysig yw hi i bobl leol bod gwasanaethau meddyg teulu yn parhau i fod ar gael ym Mhont-iets.

"Byddai'r cynnig yr ydym nawr yn ceisio barn arno yn dod â Meddygfa'r Sarn a Meddygfa Minafon at ei gilydd fel un meddygfa. Nod y dull hwn yw cefnogi model mwy cynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu lleol tra'n cadw mynediad i gleifion yn y gymuned.

"Cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud, rydym am glywed yn uniongyrchol gan gleifion Meddygfa'r Sarn a Meddygfa Minafon, trigolion a rhanddeiliaid lleol am y cynnig a sut y gallai gwasanaethau weithredu yn y dyfodol. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwasanaethau hyn i gymryd rhan yn yr ymgysylltiad a rhannu eu barn."

Bydd yr ymgysylltiad yn parhau ar agor tan 29 Tachwedd 2026. Disgwylir i'r Bwrdd Iechyd ystyried adroddiad ym mis Ionawr 2027.