6 Gorffennaf 2026
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ailddatgan ei ymrwymiad i gymuned y Lluoedd Arfog drwy ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn nigwyddiad Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026 ym Mharc Gwledig Pen-bre ddydd Sadwrn 27 Mehefin 2026.
Llofnodwyd y cyfamod ar ran y sefydliad gan Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Bwrdd Iechyd ac aelod Bwrdd Annibynnol, Michael Imperato a Lisa Gostling, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol.
Dywedodd Lisa Gostling: “Rydym yn falch o ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac ailddatgan ein hymrwymiad i’r rhai sy’n gwasanaethu, sydd wedi gwasanaethu, a’u teuluoedd.
“Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae cymuned y Lluoedd Arfog yn ei wneud i gymdeithas ac i’n sefydliad. Mae’r addewid hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth, y tegwch a’r gydnabyddiaeth y maent yn eu haeddu.”
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl sy’n sicrhau bod y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Mae’r cyfamod yn cefnogi personél sy’n gwasanaethu, y rhai sy’n gadael y lluoedd arfog, cyn-filwyr, a’u teuluoedd. Mae cyn-filwr yn rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog am o leiaf un diwrnod.
Drwy ail-lofnodi’r cyfamod, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi atgyfnerthu ei gefnogaeth barhaus a’i rôl fel sefydliad cyfeillgar i’r Lluoedd Arfog.
Mae ymrwymiadau’r Bwrdd Iechyd yn cynnwys:
Dywedodd Michael Imperarto, Aelod Annibynnol a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw aelod o gymuned y Lluoedd Arfog yn wynebu anfantais o gymharu â dinasyddion eraill, gan gydnabod y gallai ystyriaeth arbennig fod yn briodol mewn rhai amgylchiadau, yn enwedig i’r rhai sydd wedi’u hanafu neu mewn profedigaeth.
“Mae ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn amlygu ymrwymiad parhaus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gryfhau ei gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog ar draws gorllewin Cymru, fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau gofal iechyd.”
Os hoffai unrhyw un sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ewch i biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/cyfamod-y-lluoedd-arfog (yn agor mewn tab newydd).
Mae Rhwydwaith Staff y Lluoedd Arfog hefyd yn agored i unrhyw aelod o gymuned y lluoedd arfog sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac os hoffai unrhyw staff gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith, gallant gysylltu â StrategicPartnerships.HDD@wales.nhs.uk.
Yn y llun o'r chwith i'r dde: Swyddog Awyr Cymru, Comodor yr Awyrlu Rob Woods OBE; Michael Imperato, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac aelod Annibynnol o'r Bwrdd; a Lisa Gostling, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol.