12 Awst 2026
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu ar ôl cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru 2026.
Wedi'i drefnu gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru, mae'r Gwobrau'n dathlu timau sy'n sbarduno gwelliannau ac yn trawsnewid gwasanaethau ledled Cymru.
Yn dilyn cael y nifer uchaf erioed o geisiadau, mae 39 o brosiectau wedi cyrraedd rhestr fer 13 o gategorïau gwobrau, gan arddangos arloesi, gwella a chydweithio gan dimau ledled Cymru.
Prosiectau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer:
Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru
Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru
Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru
Gwobr Dull System Gyfan GIG Cymru
Dywedodd Lisa Gostling, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol "Mae'n wych gweld pedwar prosiect Hywel Dda ar restr fer Gwobrau GIG Cymru eleni. Mae ein cymuned iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru yn parhau i ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion. Pob lwc i'n holl ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol."
Cyfle i ddweud eich dweud a helpu i ddewis yr enillwyr.
Am y tro cyntaf, gall cydweithwyr ar draws GIG Cymru archwilio'r prosiectau ar y rhestr fer a phleidleisio dros y mentrau y maent yn credu sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar gleifion, gwasanaethau a staff.
Mae pob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi creu poster i’w prosiect sy’n arddangos eu taith wella, eu cyflawniadau a’u canlyniadau.
Gall cydweithwyr o bob rhan o GIG Cymru wneud y canlynol:
Mae pob pleidlais sy’n cael ei bwrw a’r holl sylwadau a ddarperir yn ddienw.
Mae'r cyfnod pleidleisio ar agor tan 5:00pm ddydd Iau 17 Medi.
Cyhoeddir canlyniadau'r bleidlais gan gymheiriaid yn ystod digwyddiad Gwobrau GIG Cymru ac ar-lein ddydd Iau 12 Tachwedd.
Dilynwch y ddolen hon i fynd i'r platfform pleidleisio ar-lein a bwrw eich pleidlais: https://nhswales.awardsplatform.com/en_GB/auth/login/zKDYPDBR
I gael y diweddariadau diweddaraf, ewch i gwobraugig.cymru neu dilynwch Wobrau GIG Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol.
DIWEDD