Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd i wneud penderfyniad am ddyfodol Meddygfa Cross Hands a'r Tymbl

8 Rhagfyr 2023

Bydd dyfodol darpariaeth Gofal Sylfaenol ar gyfer cleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa Cross Hands a’r Tymbl yn cael ei drafod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn cyfarfod arbennig ddydd Iau 14 Rhagfyr 2023.

Yn dilyn ildio eu cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol gan Bartneriaid Meddygfa Cross Hands a’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin, a ddaeth i rym ddiwedd mis Mawrth 2024, cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu i gasglu barn cleifion a rhanddeiliaid lleol ar ddyfodol gwasanaethau meddygon teulu.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i roi eu barn yn ôl i ni. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i wrando ar ein poblogaethau lleol ac ymgysylltu â nhw a hoffem ddiolch i gleifion a rhanddeiliaid am eu rhan yn y broses hyd yn hyn.

“Ddydd Iau, bydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniad ar sail adborth a dderbyniwyd drwy gydol y broses ymgysylltu ac ar argymhellion y Panel Practis Gwag a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth o Llais a’r Pwyllgor Meddygol Lleol cyn yr ymarfer ymgysylltu cyhoeddus.

“Rydym yn deall y bydd pobl leol eisiau gwybod sut olwg fydd ar ddyfodol eu gwasanaethau meddyg teulu, a byddwn yn ysgrifennu at bob claf i roi gwybod iddynt am y canlyniad unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud gan y Bwrdd.”

Roedd yr ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid yn cynnwys dau ddigwyddiad galw heibio yn y Tymbl a Cross Hands ym mis Tachwedd. Roedd hwn yn gyfle i bobl drafod eu pryderon yn bersonol gyda'r Bwrdd Iechyd a Llais. Yn ogystal, roedd cleifion ac aelodau o'r Gymuned leol yn gallu rhannu eu barn drwy holiadur.

Dywedodd Helen Williams o Llais: “Mae Llais Gorllewin Cymru wedi chwarae rhan lawn yn yr ymarfer ymgysylltu a siaradodd â rhai pobl ynghylch eu pryderon.

“Mae Llais yn cydnabod bod pobl yn poeni am eu gwasanaethau meddyg teulu o fewn y gymuned ac adlewyrchodd hyn yn eu hymateb i’r bwrdd iechyd ar wasanaethau meddygon teulu yn ardal Y Tymbl a Cross Hands.”

Bydd Llais yn cyhoeddi ei ymateb ar eu gwefan www.llaiswales.org.

I weld papurau’r Bwrdd a gwylio’r cyfarfod ar y diwrnod, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2023/

Bydd diweddariad, yn dilyn penderfyniad ffurfiol y Bwrdd ddydd Iau, yn cael ei rannu gyda chleifion a rhanddeiliaid.