Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd i gyhoeddi mesurau ychwanegol i ymdopi â'r galw

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae ein hysbytai wedi bod yn gweithredu ar y lefelau uchaf o bwysau brys yn gyson, gydag oedi cynyddol wrth drosglwyddo ambiwlansys, amseroedd aros adrannau brys a nifer y cleifion sy'n aros i gael eu rhyddhau.

Ar hyn o bryd rydym yn trin y nifer uchaf o gleifion mewnol sydd wedi cael cadarnhad o COVID-19 ers dechrau'r pandemig, ac rydym mewn man lle mae'n rhaid i ni gymryd camau brys i leddfu'r pwysau hyn a lliniaru'r risgiau posibl i ansawdd a diogelwch y gofal a ddarparwn i gleifion.

O ganlyniad, o ddydd Llun 21 Rhagfyr ymlaen bydd y Bwrdd Iechyd yn cychwyn mesurau a fydd yn caniatáu inni ryddhau mwy o staff clinigol i gefnogi ymateb COVID 19, cefnogi ein gallu i gleifion mewnol, wrth barhau i ddarparu mynediad at ofal i'r cleifion hynny sydd â'r angen clinigol mwyaf brys.

Byddwn yn blaenoriaethu clinigau cleifion allanol, ymchwiliadau endosgopi, ymyriadau therapiwtig a gweithdrefnau llawfeddygol ar gyfer cleifion sydd â'r canser mwyaf brys ac angen clinigol. Byddwn yn gohirio asesiadau a thriniaethau dros dro i gleifion â chyflyrau llai brys; byddwn yn cysylltu â chleifion os yw eich apwyntiadau / derbyniadau i gael eu canslo – peidiwch ffonio os gwelwch yn dda.

 Bydd y gwasanaethau brys yn parhau fel arfer.

Bydd y camau a amlinellir yn dod i rym am gyfnod cychwynnol o 4 wythnos o ddydd Llun 21ain Rhagfyr 2020, ac yn cael eu hadolygu yn ystod ail wythnos Ionawr 2021. Os bydd angen eu hymestyn y tu hwnt i'r cyfnod hwn, byddant yn cael eu hadolygu ymhellach yn y cyfnod dilynol mewn ysbeidiau o 3 wythnos.

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn ehangu capasiti yn ein lleoliadau ysbytai maes yn raddol fel rhan o'n hymateb ehangach Covid-19 i'n helpu i reoli gallu a llif cleifion yn well yn ein safleoedd ysbytai acíwt a chymunedol.

Meddai Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithredidau: "O ddechrau'r pandemig, mae'r Bwrdd Iechyd wedi rhagweld a chynllunio ar gyfer yr angen i adleoli staff clinigol i rolau gofal brys a chritigol os oes eu hangen. Bwriad y mesurau yr ydym yn eu cymryd yw amddiffyn cleifion sydd â'r angen clinigol mwyaf brys wrth ganiatáu inni ail-flaenoriaethu staff i liniaru'r risg gynyddol o niwed mewn gofal acíwt ac argyfwng, oherwydd y pwysau yr ydym wedi siarad amdano.

"Rydym yn gweithio gyda'n gilydd fel un Bwrdd Iechyd ac rwy'n hynod falch o'n holl staff am eu proffesiynoldeb a'u hymrwymiad i gadw gwasanaethau allweddol y GIG i redeg, hyd yn oed yn wyneb perygl, ac o dan bwysau a blinder eithafol. Diolch i chi gyd."

Ychwanegodd Mansell Bennett, Cadeirydd Corff Gwarchod Cleifion Lleol, y Cyngor Iechyd Cymunedol: “Mae'n amlwg bod gwasanaethau'r GIG lleol dan bwysau mawr ar hyn o bryd. Rydym yn deall bod angen gwneud newidiadau dros dro a phenderfyniadau anodd.

“Mae'n amser anodd iawn i staff y GIG sy'n gweithio'n ddyddiol i ddarparu gwasanaethau diogel mewn ysbytai, mewn meddygfeydd yn ogystal ag yn ein cymunedau mewn ystod eang o leoedd. Efallai y bydd angen y gwasanaethau hynny ar bob un ohonom neu efallai ein bod eisoes yn eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt. Rydym wedi siarad â'r Bwrdd Iechyd yn rheolaidd trwy gydol y pandemig, i fonitro'r sefyllfa fel y mae wedi bod yn newid. Wrth inni agosáu at y Nadolig, mae'r sefyllfa'n dod yn fwy heriol fyth a byddwn yn parhau i wrando ar yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddweud.”