Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd i geisio barn y cyhoedd ar y bwriad i gau cangen Meddygfa Penrhyn yn Nhyddewi

23 Gorffennaf 2026

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgysylltu â chleifion cofrestredig ar effaith bosibl cau arfaethedig meddygfa gangen Meddygfa Penrhyn yn Nhŷ Shalom yn Nhyddewi.

Ym mis Chwefror 2026, yn dilyn pryderon ynghylch heriau staffio a chynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau meddygfa gangen, cyflwynodd tîm y practis ym Meddygfa Penrhyn gais i'r Bwrdd Iechyd yn gofyn am ystyried cau ei gangen dan arweiniad nyrsys yn Nhyddewi.

Cyflwynwyd y cais yn unol â phroses cau meddygfa gangen y cytunwyd arni gan y Bwrdd Iechyd. Mae'r Bwrdd Iechyd bellach yn y broses o gytuno ar gynllun ymgysylltu â Llais a'r Pwyllgor Meddygol Lleol (PML) cyn ceisio barn cleifion, staff a rhanddeiliaid eraill.

Yn fwy diweddar, mae'r Bwrdd Iechyd hefyd wedi cael gwybod gan ymddiriedolwyr Tŷ Shalom eu bod yn bwriadu arwerthu'r safle a ddefnyddir ar hyn o bryd gan y feddygfa gangen. O ganlyniad, ni fydd y safle ar gael mwyach o ddiwedd mis Medi 2026.

Sefydlwyd y feddygfa gangen dan arweiniad nyrsys yn Nhŷ Shalom ym mis Tachwedd 2024 ac mae'n gweithredu boreau dydd Llun i ddydd Gwener, gan ddarparu profion gwaed a gofal clwyfau yn bennaf. Darperir yr holl wasanaethau meddyg teulu ym Meddygfa Penrhyn, tair milltir a hanner i ffwrdd.

Er y gallai hyn arwain at gau'r safle dros dro tra bod gweithgareddau ymgysylltu yn cael eu cynnal a threfniadau yn y dyfodol yn cael eu hystyried, mae'r Bwrdd Iechyd yn dymuno sicrhau'r gymuned nad yw argaeledd Tŷ Shalom yn pennu canlyniad y cais i gau'r feddygfa gangen.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn cydnabod bod gwasanaethau meddygon teulu lleol yn hynod bwysig i’n cymunedau. Rydym yn deall y gallai fod gan drigolion gwestiynau ynghylch beth mae datblygiadau diweddar yn ei olygu i ddyfodol y feddygfa gangen.

“Ein ffocws yw gweithio ochr yn ochr â’n cymuned i archwilio sut y gallwn sicrhau darpariaeth iechyd leol sy’n cadw pobl yn iach. Rydym yn awyddus i weithio gyda rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys Gweithgor y Penrhyn, er mwyn gallu cael trafodaeth ehangach am ddyfodol ein meddygfa cangen a sut mae’n gwasanaethu pawb yn yr ardal.”

“Rydym yn cydnabod yr angen i ddilyn proses glir, ond rydym wedi ymrwymo i’w hehangu i gynnwys cynifer o leisiau â phosibl, gan lywio ein cyfeiriad yn y dyfodol yn unol â’n huchelgais o ‘Gymuned drwy Ddylunio’ fel y’i hamlinellwyd yn ein strategaeth ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach.

"Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch y cais i gau. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â chleifion, trigolion a rhanddeiliaid i ddeall effaith bosibl y cynnig ac i sicrhau bod pob barn yn cael ei hystyried fel rhan o'r broses gwneud penderfyniadau.

"Er ein bod wedi cael gwybod na fydd Tŷ Shalom ar gael mwyach o ddiwedd mis Medi, nid yw hyn yn rhagweld canlyniad y cais i gau'r feddygfa gangen. Mae'r broses ymgysylltu yn parhau i fod yn rhan hanfodol o weithdrefn gytunedig y Bwrdd Iechyd."

Bydd unrhyw benderfyniad ynghylch dyfodol y feddygfa cangen a arweinir gan nyrsys yn cael ei wneud drwy'r broses sefydledig ar gyfer cau canghennau meddygfa, gan ystyried yr adborth a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgysylltu, tystiolaeth o'r angen lleol, ac effaith hynny ar gleifion.

Bydd manylion y broses ymgysylltu, gan gynnwys sut y gall pobl leol rannu eu barn, yn cael eu rhannu maes o law.

DIWEDD