Bwrdd Iechyd i benderfynu ar ddyfodol gwasanaethau strôc yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd

20 Tachwedd 2026 

Yn ei gyfarfod Bwrdd ddydd Iau 26 Tachwedd 2026, disgwylir i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wneud penderfyniad ar y model i’r dyfodol ar gyfer gwasanaethau strôc.

Daw'r penderfyniad yn dilyn dau gam o ymgynghori cyhoeddus, lle mae cleifion, gofalwyr, staff, sefydliadau partner a chymunedau lleol wedi rhannu eu barn a'u profiadau am wasanaethau strôc.

Bydd penderfyniad y Bwrdd yn cael ei lywio gan dystiolaeth ar sut y gall gwasanaethau strôc fodloni safonau clinigol cenedlaethol orau, gwella ansawdd a diogelwch gofal, a sicrhau canlyniadau gwell i gleifion. Bydd aelodau'r Bwrdd yn ystyried adborth o'r broses ymgynghori, ynghyd â'r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf, data ac asesiadau effaith, cyn gwneud penderfyniad terfynol.  

Mae'r opsiwn a ffefrir, a ddatblygwyd yn dilyn adborth a gasglwyd yn ystod cam cyntaf yr ymgynghoriad yn 2025, fel rhan o'r Cynllun Gwasanaethau Clinigol, yn cynnwys: 

  • Uned strôc acíwt ac adsefydlu 24 awr yn Ysbyty Glangwili
  • Uned adsefydlu strôc yn Ysbyty Bronglais
  • Gwasanaethau trin a throsglwyddo yn ysbytai Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg

Roedd ail gam yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar yr opsiwn a ffefrir hwn. Mae'r adborth wedi'i amlinellu yn Adroddiad Ymgynghoriad Strôc Cam 2, a gyhoeddwyd cyn ystyriaeth y Bwrdd ar gael ar-lein yn Saesneg yn unig yma (agor mewn dolen newydd).

Ar hyn o bryd darperir gwasanaethau strôc yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg. Fodd bynnag, nid yw'r gwasanaethau'n bodloni safonau clinigol cenedlaethol yn gyson ac nid oes unrhyw staffio strôc arbenigol ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. 

Mae gofal strôc wedi datblygu'n sylweddol, ac mae tystiolaeth yn dangos bod cleifion yn cael canlyniadau gwell pan fyddant yn cael gofal mewn unedau strôc arbenigol gyda mynediad at dimau arbenigol ac offer arbenigol.

Fel yn y llwybr presennol, o dan yr holl opsiynau sy'n cael eu hystyried, byddai pobl lle’r amheuir strôc yn dal i fynd i'w hysbyty addas agosaf ar gyfer asesiad a thriniaeth gychwynnol, os oes angen, cyn unrhyw drosglwyddo i uned strôc arbenigol. Os oes angen triniaeth arbenigol megis thrombectomi, bydd cleifion yn parhau i gael eu trosglwyddo i ganolfan arbenigol yng Nghaerdydd neu Fryste.  

Dywedodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol: "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwasanaethau strôc i gleifion, eu teuluoedd a'r staff sy'n gofalu amdanynt. Mae angen inni wneud newidiadau i'r gwasanaethau a ddarparwn i sicrhau bod ein cleifion yn cael y canlyniadau gorau posibl yn dilyn strôc, a hynny gyda’r gwasanaeth gorau posibl a’r gefnogaeth orau bosibl gan ein staff a'r rhwydwaith ehangach o gymorth. 

"Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhannu eu profiadau a'u barn drwy'r ymgynghoriad. 

"Clywsom drwy'r sgyrsiau a gynhaliwyd yn ystod yr ymgynghoriad y gall y posibilrwydd o newidiadau i wasanaethau lleol achosi pryder, yn enwedig i bobl sydd wedi cael strôc neu wedi cefnogi anwylyd drwy adferiad. 

"Bydd y Bwrdd yn ystyried yn ofalus yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym yn ystod y ddau gam ymgynghori, ochr yn ochr â'r dystiolaeth glinigol a chynllunio gwasanaeth manwl. Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud, a’n ffocws parhaus yw i sicrhau bod gan bobl sy'n profi strôc fynediad at y gofal arbenigol sy'n cynnig y canlyniadau gorau a'r siawns orau o wella."

Yn dilyn penderfyniad y Bwrdd, bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio gyda chymunedau a’u diweddaru am y camau nesaf. Mae'n debygol y bydd unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflwyno fesul cam, fel bod gwasanaethau'n aros mor ddiogel â phosibl, a bod cleifion yn parhau i gael y gofal sydd ei angen arnynt drwy gydol unrhyw gyfnod pontio.

Er hygyrchedd, bydd yr eitem agenda ar wasanaethau strôc ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Cynhelir y cyfarfod yn Gymraeg a Saesneg, gyda chyfieithu ar y pryd. Gall aelodau'r cyhoedd ddilyn y cyfarfod ar-lein drwy ddewis y ddolen ddarlledu sy'n diwallu eu hanghenion cyfathrebu orau. 

Mae papurau'r Bwrdd a dolen i'r darllediad byw ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd yma (agor mewn dolen newydd).

I gael rhagor o wybodaeth am Ymgynghoriad Cam 2 gwasanaethau strôc, ewch i dudalennau’r ymgynghoriad strôc ar wefan y Bwrdd Iechyd yma (agor mewn dolen newydd).

Gall unrhyw un a hoffai gael diweddariadau am wasanaethau strôc a datblygiadau eraill y Bwrdd Iechyd ymuno â'r cynllun cyfranogiad ac ymgysylltu Siarad Iechyd / Talking Health drwy e-bostio hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5), pris galwad leol, neu ysgrifennu at: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD