Neidio i'r prif gynnwy

Brysbennu a Thrin yn dychwelyd i'r stryd fawr

27 Awst 2021

Mae gwasanaeth sy'n rhoi mynediad i breswylwyr ac ymwelwyr i gael triniaeth ar gyfer ystod o gyflyrau heb apwyntiad wedi ail-lansio mewn fferyllfeydd cymunedol.

Mae'r gwasanaeth Brysbennu a Thrin bellach ar gael mewn fferyllfeydd dethol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gall Brysbennu a Thrin eich helpu os oes gennych anaf lefel isel yn hytrach na gorfod ymweld â meddyg neu adran damweiniau ac achosion brys. Darperir y gwasanaeth gan fferyllydd neu aelod o'r tîm fferyllol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.

Y mathau o anafiadau y gellir eu trin o dan y cynllun yw:

  • Mân sgrafelliadau, toriadau arwynebol a chlwyfau
  • Pigiadau a brathiadau (fel gwenyn neu slefrod môr)
  • Straen
  • Cwynion llygaid fel tywod yn y llygad
  • Tynnu eitemau o'r croen fel splinter neu gragen
  • Mân losgiadau gan gynnwys llosg haul

Pan fydd mân ddamweiniau ac anafiadau yn digwydd, mae Brysbennu a Thrin ar gael heb apwyntiad

Pan gyrhaeddwch y fferyllfa:

  • Gofynnir i'ch cytundeb (caniatâd) i gael ei archwilio
  • Asesu eich cyflwr
  • Cael eich trin neu eich cynghori ynghylch ble y dylech fynd am eich triniaeth

Bydd eich meddyg teulu yn cael gwybod am unrhyw driniaeth a roddir a gofynnir i chi hefyd roi gwybod i ni am eich barn am y gwasanaeth.

Byddwch yn ymwybodol bod Brysbennu a Thrin yn cael ei ddarparu am ddim trwy'r GIG ond bydd angen i chi dalu am unrhyw ôl-ofal y bydd ei angen arnoch chi, fel lleddfu poen dros y cownter.

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb wrth ymweld â fferyllfa a pheidiwch ag ymweld os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref unrhyw symptomau COVID-19.

Am fwy o wybodaeth gwyliwch ein hanimeiddiad yma: 

ac i ddarganfod pa fferyllfeydd sy'n cymryd rhan yn y cynllun, ewch i: fferyllfa (agor mewn dolen newydd)